Module Information

Cod y Modiwl
FG15510
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Ar gael yn semester 1 a 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Wedi cofrestru ar gynllun gradd: Ffiseg Anrhydedd Cyfun, Prif-bwnc(Ffiseg)/Is-bwnc neu Gwyddor y Gofod a Roboteg
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Ymarferol 20 x Sesiynau Ymarferol 4 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Dyddiadur Labordy Ysgrifenedig yn wythnosol.  Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd y nodiadau a wneir yn ystod arbrawf tair awr. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol. Y gofyniad lleiaf yw 200 gair yr arbrawf.  40%
Asesiad Semester 1 x Adroddiad Labordy, 1000 gair  40%
Asesiad Semester Taflen-waith Ysgrifenedig, 20 awr  20%
Asesiad Ailsefyll Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai myfyriwr fedru:
1. Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.
2. Cynhyrchu adroddiad labordy gan ddefnyddio pecyn prosesu geiriau.
3. Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.
4. Gweithio gydag eraill mewn modd ystyriol, gan rannu'r dyletswyddau ar gyfer gweithio'n effeithlon.
5. Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.

Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn rhan sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau a phrofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu technegau sylfaenol cynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi ystyriaeth i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion ffiseg i feysydd allweddol mewn ffiseg arbrofol sy'n cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Disgwylir taflen waith sy'n manylu ar ansicrwydd mewn mesuriadau a chywirdeb modelau. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal a'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am un o'r arbofion mewn adroddiad ffurfiol gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testun.

Cynnwys

• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiad. Mae'r gyfres o'r arbrofion yn seiliedig ar gysyniadau craidd mewn ffiseg. Mae'r arbofion yma yn cynnwys testunau rhagarweiniol mewn ffiseg.


Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiad ar arbrawf.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gyffredinol yn cynnal yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrifennu nodiadau.
Rhifedd Yn ei hanfod, mae ffiseg yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg ac mae ffiseg arbrofol yn seiliedig ar drin rhif. Mae defnyddio rhifau yn ganolog yn y modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4