Module Information

Cod y Modiwl
MT25610
Teitl y Modiwl
Hydrodynameg 1
Blwyddyn Academaidd
2018/2019
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Rhagofynion
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlith 22 x Darlithoedd 1 Awr
Tiwtorial 4 x Tiwtorial 1 Awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   (Arholiad Ysgrifenedig)  100%
Arholiad Semester 2 Awr   (Arholiad Ysgrifenedig)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Egluro gofynion y syniad o gyfraddau newid lleol a darfudol.
2. Cyfrifo’r forteisedd ar gyfer llif llifydd delfrydol.
3. Enrhifo’r amod anghywasgedd ar gyfer maes cyflymder penodol.
4. Cymhwyso a datrys yr hafaliadau rheoli mewn sefyllfaoedd penodol.

Nod


I gynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Ddynameg Hylifau. I gyflwyno cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol. I egluro sut gall modelu mathemategol o fudiant hylif fod o gymorth er mwyn deall ffenomenau penodol yn y byd go iawn mewn meysydd megis meteoroleg ac aerodynameg.

Disgrifiad cryno


Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno a'n datblygu'r cysyniad sylfaenol Hydrodynameg Glasurol a'n cynnig fframwaith ar gyfer gwerthfawrogiad modern o Fecaneg Hylifau.

Cynnwys


1. Cysyniadau sylfaenol: Cyflymder, cyflymiad, gwasgedd, dwysedd.
2. Adolygiad o galcwlws fector a systemau cyfesurynnol.
3. Systemau cyfeirio Euleraidd a Lagrangaidd.
4. Cinemateg mudiant hylif: llinlwybrau, llinliniau, llinreianau, forteisedd, ayyb.
5. Hafaliadau rheoli mudiant hylif sylfaenol.
6. Cymhwysiad hafaliadau Bernoulli.
7. Sylfeini hydrodynameg glasurol: Theoremau Kelvin; Llif anghylchdro.
8. Anghywasgrwydd: Llif potensial.
9. Strwythurau hydrodynameg syml mewn tri dimensiwn: tarddiadau, sinciau, dwbledi, ayyb.
10. Rhai problemau clasurol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5