Module Information

Cod y Modiwl
FG35410
Teitl y Modiwl
Ffiseg Arbrofol (10 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2019/2020
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
PH15720 neu FG15720; neu PH15510 neu FG15510
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiad Unigol  60%
Asesiad Semester Adolygiad Llenyddiaeth  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad  20%
Asesiad Ailsefyll Ail gyflwyno cydran a fethwyd  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ddiwedd y modiwl, dylai'r myfyrwyr fedru:
1. Ymchwilio papurau ac erthyglau ar destunau sy'n berthnasol i waith arbrofol.
2. Cyflwyno llyfryddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd tebyg.
3. Cynllunio a chynnal arbrawf ac yna ddadansoddi data a gwerthuso yr arbrawf gydag ond ychydig o fewnbwn gan staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau labordy a dadansoddi a ddatblygwyd yn gynharach yn ystod y cwrs.
4. Gweithio mewn grŵp i gyfathrebu arbrawf a'r canlyniadau mewn cyflwyniad llafar.
5. Ysgrifennu adroddiad unigol ar arbrawf.

Nod

Mae'r modiwl yn anelu at ddatblygu sgiliau dadansoddi ac arbrofol angenrheidiol ar gyfer cyflawni arbrofion ffiseg o safon uwch. Yn neilltuol bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o offer, dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn ogystal a chyfathrebu a gwerthuso beirniadol o'r canlyniadau arbrofol. Mae'r modiwl yn datblygu sgiliau angenrheidiol ar gyfer y prosiect blwyddyn olaf.

Disgrifiad cryno

Mae angen i'r myfyrwyr gyflawni arbrawf estynedig neu gyfres o arbrofion dros gyfnod y semester. Bydd angen i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrawf, archwilio'r offer sydd ar gael ac yna ddatblygu strategaeth arbrofol a dadansoddi'r canlyniadau. Caiff yr arbrawf ei asesu mewn tair ffordd; yn gyntaf drwy adolygiad llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol i destunau sy'n berthnasol i'r arbrawf, yn ail drwy gyflwyniad ar yr arbrawf, yn drydydd bydd adroddiad arbrawf ffurfiol yn cael ei gyflwyno.

Cynnwys

Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir yr arbrawf, cyd-destun yr arbrawf a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrawf. Mewn cyferbyniad ag yn y flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng rhan 1 a'r prosiectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion - mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn ganolog i'r modiwl. Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o datblygiad gyrfa myfyriwr.
Darperir goruchwyliaeth neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn y Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt roi cyflwyniad llafar yn Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae angen sgiliau cyfathrebu a llythrennedd er mwyn cyflwyno'r canfyddiadau mewn cyflwyniad grwp ac mewn adroddiad ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae nifer o'r sgiliau a ddatblygir yn elfennau hanfodol o radd ffiseg ac mewn cyflogaeth yn y dyfodol.
Datrys Problemau Mae sgiliau datrys problemau yn hanfodol er mwyn ymateb i ganlyniadau cychwynnol ac addasu strategaethau arbrofol yn unol a hynny.
Gwaith Tim Caiff yr ymchwiliad arbrofol a'r cyflwyniad eu gwneud mewn grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Drwy adlewyrchu ar ganlyniadau gwaith labordy i gynllunio gwaith pellach mae'r myfyriwr yn datblygu eu dysgu a'u perfformiadau eu hunain.
Rhifedd Mae cymhwyso rhif yn ganolog yn y dadansoddiad o ddata arbrofol, gan gynnwys trin cyfeiliornadau
Sgiliau pwnc penodol Datblygir ac asesir sgiliau pynciol, ond dibynna'r manylion ar destun neilltuol yr arbrawf estynedig.
Sgiliau ymchwil Mae angen sgiliau ymchwil i gynllunio arbrofion a phrofi damcaniaethau.
Technoleg Gwybodaeth Mae offer a chyfrifiaduron yn hanfodol i gyflawni arbrawf, dadansoddi data a chyflwyno canlyniadau.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6