Module Information

Cod y Modiwl
BG21920
Teitl y Modiwl
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Exam  3 Awr  60%
Arholiad Semester 3 Awr   Exam  3 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ail-eistedd  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Aseiniad Semester  2000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Egluro'r prosesau ecolegol sy'n digwydd wrth gynhyrchu bwyd.

2. Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.

3. Adnabod yr effeithiau ar yr amgylchedd oherwydd dwysau amaethyddol.

4. Arfarnu effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.

5. Trafod y cysyniad o gynaliadwyedd wrth gynhyrchu bwyd.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen ar gyfer deall yr agweddau ecolegol cymhwysol sy'n rhan o gyfansoddiad systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl hwn yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Cynlluniwyd y modiwl er mwyn tynnu sylw at bynciau yn y gadwyn fwyd pobl gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaliadwyedd, effeithiau dwysau amaethyddol a dyframaethu ar yr amgylchedd, datblygiad polisi amaethyddol, pryderon y cyhoedd ynghylch cynhyrch bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a galwadau'r cwsmer a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.

Cynnwys

Mae’r modiwl wedi ei rannu yn bedair thema:
• Amaeth a Bwyd
• Systemau Ffermio a’r Amgylchedd
• Atebion ar gyfer Systemau Amaethyddol Cynaliadwy
• Dyfodol Bwyd a Ffermio
Mi fydd y modiwl yn dechrau gyda trosolwg o wahanol agweddau o systemau cynhyrchu bwyd cyfredol gan edrych ar sut maent yn rhyngweithio gyda’r amgylchedd. Mi fydd heriau amgylcheddol systemau ffermio yn cael eu adnabod cyn y bydd atebion posib yn cael eu amlygu. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried dyfodol systemau ffermio a systemau cynhyrchu bwyd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen mewn gwahanol gyd-destunau ac at ddibenion gwahanol. Ysgrifennu at ddibenion gwahanol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Adnabod ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion posibl. Gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun
Rhifedd Dadansoddi ymchwil wedi ei gyhoeddi.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd angen i fyfyrwyr i fynd i’r afael gyda gwaith ymchwil wedi ei adolygu gan gydweithwyr ac fe fydd hyn yn gofyn am ddefnydd effeithlon o beiriannau chwilio a darllen a gwerthuso papurau gwyddonol.
Technoleg Gwybodaeth Cyflwyno gwybodaeth a data. Canfod gwybodaeth ar y we.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5