Module Information

Cod y Modiwl
HA30300
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig  (10,000 - 12,000 o eiriau)  90%
Asesiad Ailsefyll Cais ymchwil  (2,000 o eiriau)  10%
Asesiad Semester Cais ymchwil  (2,000 o eiriau)  10%
Asesiad Semester Traethawd estynedig  (10,000 - 12,000 o eiriau)  90%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

trefnu a chyflwyno dadl hanesyddol yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol;

datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser;

arddangos deallwriaeth feirniadol o'r llenyddiaeth hanesyddol berthnasol;

cynhyrchu darn o waith sy'n cydfynd o ran cyflwyniad a safonau academaidd addas.

Disgrifiad cryno

Cynigia rhan gyntaf y modiwl rhagbaratoad i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl Hanes er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig ar lefel israddedig. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r traethawd arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod problem diffinio testun traethawd estynedig ac ar gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir cymorth priodol ar leoli ffynonellau a llunio llyfryddiaethau. Erbyn diwedd Sesiwn 4 dewisir goruchwyliwr ar gyfer pob myfyriwr a bydd sesiynau 6-8 yn gyfarfodydd seminar mewn grwpiau bychain gyda'r goruchwylwyr. Ar ol hynny, bydd myfyrwyr yn cyfarfod a'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio ac ysgrifennu'r traethawd estynedig 12,000 o eiriau.

Nod

Y mae'r traethawd estynedig yn elfen hanfodol yn rhaglenni anrhydedd sengl yr Adran. Galluoga myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig o ysgrifennu hanesyddol.

Cynnwys

Semester 1: wyth sesiwn:
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 3: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 4: Diffinio'r Pwnc: Gweithdy i fyfyrwyr i drafod eu syniadau, gyda chyngor oddi wrth aelodau o'r staff. (2 awr)
Sesiwn 5: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwyliwr (30 munud)
Sesiwn 6: Dadansoddi Ffynonellau (2 awr)
Sesiwn 7: Materion Hanesyddiaethol (2 awr)
Sesiwn 8: Cynllunio (2 awr)

Semester 2: dau sesiwn grwp 2 awr, un yn wythnos 2 ac un yn wythnos 8, ynghyd a chyfarfodydd unigol gyda'r goruchwyliwr.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd, ynghyd a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr.
Gwaith Tim Heb fod yn berthnasol
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ol i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith.
Rhifedd Fe all fod yn berthnasol, petai'r traethawd ag elfen ystadegol neu fesurol amlwg, er enghraifft ar demograffeg neu agwedd ar hanes economaidd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y modiwl yn datblygu ymhellach sgiliau'r myfyrwyr wrth gynllunio darn o waith sylweddol, gan ddangos adnabyddiaeth o'r cyd-destun hanesyddiaethol ac ymwybyddiaeth o'r confensiynau cyhoeddi ar gyfer y ddisgyblaeth.
Sgiliau ymchwil Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6