Module Information

Cod y Modiwl
TC29920
Teitl y Modiwl
Ffilm a Theatr Americanaidd
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  Cyflwyniad unigol o 10 munud.  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd/ Traethawd fideo  Traethawd 2,000 gair neu traethawd fideo 4 munud ar gwestiwn penodol.  50%
Asesiad Semester Traethawd/ Traethawd fideo  Traethawd 2,000 gair neu traethawd fideo 4 munud ar gwestiwn penodol.  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad  Cyflwyniad grwp 10 munud ar pwnc perthnasol i'r modiwl.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Y gallu i drafod ac asesu’r cyd-destunau diwylliannol a diwydiannol o amgylch cynhyrchiadau penodol.

Y gallu i drafod damcaniaethau addasiad rhwng y ffurfiau gwahanol o berfformio/chynhyrchu.

Defnyddio fframwaith beirniadol i ddehongli y berthynas rhwng theatr a ffilm.

Adnabod ac archwilio amryw o ffynonellau er mwyn dadansoddi cynnwys a chynhyrchiad testunau priodol.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn rhoi’r cyfle i edrych ar hanes a diwylliant ffilm a theatr yn yr Unol Daleithiau a’r cysylltiadau rhyngddynt. Mae 10 wythnos dysgu wedi eu rhannu rhwng arolwg hanesyddol o’r datblygiadau yn a rhwng y ddau gyfrwng ac astudiaethau achos yn ymchwilio digwyddiadu penodol, y pwysigrwydd o genre, a’r cynrychiolaeth o grwpiau a chymunedau.

Nod

Bydd y modiwl yn uno traddodiadau ffilm efo drama a theatr er mwyn edrych ar hanes y ddau ffurf a'u cysylltiadau ar draws yr Ugeinfed Ganrif ac yn y cyfnod cyfoes.

Cynnwys

Rhai o’r testunau o dan sylw fydd: traddodiadau perfformio, effaith ‘helfa gwrachod’ McCarthy, y symudiad o berfformwyr a chynhyrchwyr/awduron rhwng ffilm a theatr, genre y ‘musical’ yn y ddau ffurf, a’r addasiadau o waith llwyfan i ffilm ac yn y cyfnod cyfoes yr addasiad o sinema i’r llwyfan.
Bydd y modiwl yn cael ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, a sesiynau gwylio, er mwyn rhoi'r cyfle i amlinellu pynciau difyr a gwrthgyferbyniol a thrafod y gwahaniaethau rhwng yr ymchwiliad o'r pynciau ar y sgrin a'r llwyfan.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Datrys Problemau Creadigol Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau ymchwil a pynciau academaidd er mwyn ymrwymo yn y sesiynau wythnosol.
Gallu digidol Bydd y modiwl yn defnyddio Blackboard i gyfleu prif wybodaeth y modiwl, defnyddiau Aspire, a system Turnitin.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y myfyrwyr yn trin pynciau academaidd gwahanol ar hyd y modiwl. Mae disgwyliadau byddynt yn ymchwilio ac adlewyrchu ar casgliad o ffynonellau a phynciau yn y sesiynau dysgu a’r aseiniadau.
Myfyrdod Bydd cyfle i ddefnyddio ‘asesu-cyfoed’ (peer-assessment) efo rhai aseiniadau er mwyn rhoi sylwebaeth ar y broses o weithio fel grŵp.
Sgiliau Pwnc-benodol Dadansoddiad Critigol: Ymrwymo’n gritigol efo damcaniaethau a trafodaethau o fewn y maes, a’u rhoi i ddefnydd cynhyrchiol. Deall ffurfiau o gyfarthrebu, y cyfryngau, ffilm a theatr, sut maent wedi ymddangos yn hanesyddol, a gwerthfawrogi y prosesau maent wedi codi trwyddynt, efo cyfeiriadau at newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a technolegol. Ymchwil: Paratoi aseiniadau. Tynnu ar gryfderau, a deall y terfynau, o brif ddulliau ymchwil mesurol ac ansoddol yn eu gwaith.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5