Module Information

Cod y Modiwl
HC33520
Teitl y Modiwl
Cymru a'r Tuduriaid
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Arholiad agored  2500 o eiriau  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Arholiad agored  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Traethawd  2500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos eu bod yn gyfarwydd gyda’r corff sylweddol o wybodaeth hanesyddol sydd ar gael o ran cymdeithas, crefydd ac awdurdod yng Nghymru’r unfed ganrif ar bymtheg.

Dangos dealltwriaeth fanwl a’r gallu i drafod yn soffistigedig y prif ddatblygiadau mewn hanes Cymru yn y cyfnod hwn, gan gynnwys canoli awdurdod a’r newidiadau crefyddol a ddaeth yn sgil y rhwyg oddi wrth Eglwys Rhufain.

Darllen, dadansoddi a myfyrio’n feirniadol ar destunau gwreiddiol ac eilaidd, yn enwedig testun y Deddfau Uno, y propaganda Protestanaidd a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod a’r trafodaeth hanesyddiaethol ar dderbyniad Protestaniaeth yng Nghymru.

Datblygu’r gallu i bwyso a mesur cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol am Gymru’r unfed ganrif ar bymtheg ac i’w herio lle bo’n briodol.

Disgrifiad cryno

Bu’r Tuduriaid yn llywodraethu dros deyrnas Lloegr rhwng 1485 a 1603. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth Cymru’n rhan o’r deyrnas honno’n ffurfiol drwy’r Deddfau Uno. Dyma gyfnod allweddol o ran hanes Cymru, felly ac, am ganrifoedd, y gred oedd fod y Cymry wedi elwa’n fawr o dan reolaeth garedig teulu brenhinol oedd â chysylltiadau agos â Chymru. Yn ystod y cwrs hwn byddwn yn ceisio asesu faint o wirionedd sydd i’r honiadau hyn, ar yr un pryd ag archwilio effaith dylanwadau a syniadau newydd yr oes ar bobl Cymru. Ymhlith y prif themâu a astudir y mae pwnc yr ‘Uno’ rhwng Cymru a Lloegr, dylanwad y Dadeni Dysg a’r modd y cyflwynwyd y grefydd Brotestannaidd newydd i’r Cymry.

Nod

Y mae’r modiwl hwn yn cyfoethogi’r ddarparieth o ran hanes Cymru yn yr Adran ac yn cynnig dewis ychwanegol ar gyfer myfyrwyr Rhan Dau sydd wedi cofrestru ar amrywiaeth o gynlluniau gradd yn yr Adran. Bydd o ddiddordeb i’r rheini’n astudio Hanes Cymru’n benodol, ond bydd hefyd yn denu myfyrwyr gyda diddordeb yn y cyfnod modern cynnar, gan gynnwys rheini ar V190 Hanes yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar. Drwy gyfrwng y modiwl, cyflwynir myfyrwyr i gyfnod a oedd yn allweddol yn hanes Cymru ac Ynysoedd Prydain.

Cynnwys

Darlithoedd (2 yr wythnos):
1. Cyflwyniad: pwy oedd y Cymry?
2. Harri Tudur a’r ffordd i Bosworth
3. Harri VII: ‘y mab darogan’?
4. Natur y gymdeithas yng Nghymru’r cyfnod
5. Rheoli Tywysogaeth a Mers: Rhys ap Thomas a Rowland Lee
6. Yr Eglwys ar drothwy’r Diwygiad
7. Harri VIII a’i Ddiwygiad
8. Y ‘Deddfau Uno’ 1536-43
9. Effeithiau’r Deddfau Uno
10. Twf y bonedd
11. Rheoli Cymru: Tudur, Herbert a Cecil
12. Diwylliant a Dadeni yng Nghymru
13. Edward VI: plannu Protestaniaeth?
14. ‘Mari Waedlyd’?
15. Elisabeth I: Sefydlu Eglwys
16. Eglwys Oes Elisabeth: y gwrthwynebiad
17. Ofergoeliaeth, dewiniaeth a chrefydd yng Nghymru
18. Cymru Oes y Tuduriaid: Teyrngarwch a Theyrnfradwriaeth

Seminarau (4 x 1½ awr)
1. Harri Tudur a Chymru
2. ‘Uno’ Cymru a Lloegr
3. Y Diwygiad Protestannaidd
4. Y Dadeni a’r Iaith Gymraeg

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig
Gwaith Tim Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deall sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd.
Sgiliau ymchwil Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd.
Technoleg Gwybodaeth Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6