Module Information
Cod y Modiwl
BG12110
Teitl y Modiwl
Amrywiaeth Microbau
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 17 x darlith 1 awr |
| Sesiwn Ymarferol | 4 x dosbarth ymarferol 2 awr |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Asesu Parhaus: Asesiad o ddosbarthiadau ymarferol drwy gyfrwng profion amlddewis. | 30% |
| Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad semester ysgrifenedig dwy awr. | 70% |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o?r modiwl sy?n cyfateb i?r hyn a arweiniodd at fethu?r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau yng nghylchoedd biogeocemegol a biotechnoleg
2. egluro sut mae micro-organeddau yn rhyngweithio ag organeddau eraill, gan gynnwys dyn, fel pathogenau a chydymddibynwyr.
3. disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd yn y micro-organeddau eucaryotig a procaryotig.
4. arddangos sgiliau ymarferol wrth drafod micro-organeddau.
Disgrifiad cryno
Cynlluniwyd y modiwl er mwyn cyflwyno amrywiaeth bywyd microbau i fyfyrwyr a phwysigrwydd micro-organeddau fel pathogenau, fel cydymddibynwyr (e.e. systemau treulio anifeiliaid, mycorhisa ac ati) ym miotechnoleg (cynhyrchu bwyd, cynhyrchion fferyllol ac ati) ac mewn gweithrediadau ecosystemau.
Cynnwys
Bydd y cwrs darlithoedd yn dechrau gyda chyflwyniad i dri Maes bywyd ac yn cynnwys cymharu procaryotau ac eucaryotau. Mae'r rhan fwyaf o amrywiaeth genetig a metabolig organeddau byw yn ficrobaidd a thynnir sylw at hyn o'r cychwyn cyntaf. Archwilir hefyd agweddau cymhwysol ar ficrobioleg sy'n uniongyrchol berthnasol i bobl, megis pwysigrwydd microbau mewn bwydydd eplesedig (e.e. gwin, cawsiau ac ati) wrth gynhyrchu'n fferyllol (e.e. penisilin/ensymau) ac fel cyfryngau bioreoli.
Cyflwynir Bacteria ac Archaea procaryotig, gan bwysleisio morffoleg, ffisioleg ac ecoleg a chloi drwy ystyried eu rol yng nghlefydau dyn. Archwilir strwythur a chylchoedd bywyd firysau ac archwilir eu rol yng ngweithrediadau clefydau ac ecosystemau.
Cyflwynir byd y Ffyngau drwy arolwg o'r prif grwpiau a'u dulliau tyfu. Mi fydd y gyfres hon o ddarlithoedd yn trafod dosbarthu organeddau byw ac amrywiaeth ffurf, systemau genetig a strategaethau bywyd, amrywiaeth ffurf a swyddogaeth micro-organeddau awtotroffig, gan gyflwyno procaryotau ac eucaryotau ffotosynthetig (algau). Yna ystyrir wltra-adeiledd, morffoleg, twf ac atgynhyrchiad celloedd, sefydliad nitrogen a swyddogaeth heterocyst yn yr organeddau hyn.
Daw rhan olaf y modiwl i ben gyda gorolwg o rol microbau mewn pydru daearol, yng nghlefydau planhigion ac fel symbiontiaid cydymddibynnol o blanhigion ac anifeiliaid.
Mi fydd dosbarthiadau ymarferol yn enghreifftio ac yn cadarnhau agweddau ar y cwrs darlithoedd. Bydd myfyrwyr yn defnyddio microsgopeg golau i archwilio ystod o ficro-organeddau. Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau allweddol ar gyfer trafod micro-organeddau yn ddiogel drwy archwiliadau arbrofol syml. Erbyn diwedd y cwrs mi fydd gan fyfyrwyr wybodaeth sylfaenol am dechnegau trafod di-haint. Defnyddir microsgopeg fideo yn helaeth fel cynhorthwy wrth ddenhongli deunydd ymarferol. Asesir dosbarthiadau ymarferol drwy gyfrwng profion yn y dosbarthiadau ymarferol a/neu wedyn.

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Sgiliau gwrando ar gyfer y darlithoedd a thrafodaeth ddilynol yn y dosbarthiadau ymarferol. Cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol mewn arholiadau. |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau biolegol ac asesu’n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig. |
| Datrys Problemau | Trwy'r darlithoedd, mi ddaw myfyrwyr yn ymwybodol o broblemau amgylcheddol a meddygol penodol a achosir gan ficrobau a'r atebion a ddatblygwyd er mwyn goresgyn y rhain. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i gael profiad o gynllunio, gweithredu, dehongli data a chynnig sylwadau ar arbrofion microbioleg a asesir. |
| Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllunio arbrofol a gweithio'n ymarferol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol. |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol. Bydd yr elfennau astudio cyfeiriedig yn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau dysgu a'u hoff ddulliau eu hunain ac adnabod anghenion a rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. |
| Rhifedd | Casglu ac archwilio data ar gyfer ansawdd a maint. Dehongli data. |
| Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn gallu gwerthuso pwysigrwydd micro-organeddau mewn cylchoedd biogeocemegol a biotechnoleg ac egluro sut mae micro-organeddau yn rhyngweithio ag organeddau eraill. Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio amrywiaeth ffurfiau bywyd mewn micro-organeddau eucaryotig a procaryotig. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau allweddol wrth drafod sbesimenau microbiolegol. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn ymchwilio pynciau y tu hwnt i gynnwys a chwmpas y darlithoedd gan ddefnyddio astudio cyfeiriedig ac annibynnol. Ystyrir a rhoi sylwadau ar wybodaeth o amryw ffynonellau. Bydd dosbarthiadau ymarferol yn galluogi datblygiad sgiliau ymchwil biolegol allweddol (gan gynnwys trafod sbesimenau microbiolegol) yn gynnar yn eu gyrfaoedd academaidd. |
| Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4