Module Information
Cod y Modiwl
BG24210
Teitl y Modiwl
Profiad Gwaith
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Elfennau Anghymharus
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 4 x 1 hour lectures |
| Seminarau / Tiwtorialau | 3 awr |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Portffolio | 100% |
| Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Ystyried yn fanwl eu profiad yn y gweithle
2. Adnabod cryfderau a gwendidau ac adnabod strategaethau ar gyfer mynd i'r afael a'r gwendidau
3. Cyfathrebu profiad mewn ffyrdd a ddisgwylir gan gyflogwyr
4. Cynllunio ar gyfer strategaeth a fydd yn gwella gyrfa yn y dyfodol
5. Datblygu a chynnal portffolio ar gyfer ystyried profiadau gwaith yn y dyfodol ar ol diwedd y modiwl
Disgrifiad cryno
Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau 50 awr o brofiad waith gwirfoddol neu brofiad waith am dal a gymeradwywyd (yn rhan-amser neu'r amser llawn) yn ystod blwyddyn 2 a'r gwyliau sydd ynglwm wrth y flwyddyn honno. Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol yn ystod eu cyfnod gwaith fel cyfres o asesiadau ffurfiannol ar lein. Ar ddiwedd y cyfnod gwaith, bydd myfyrwyr yn cyflwyno portffolio a fydd yn ystyried y profiad gwaith, yn adnabod sgiliau y bydd angen eu datblygu (a chyfleoedd i wneud hynny) ac yn creu cynllun CAMPUS, fel rhan o bortffolio profiad gwaith, wedi'r anelu at wella eu cyflogadwyedd ymhellach ym mlwyddyn 3 a thu hwnt.
Cynnwys
Cymal 1: Profiad Gwaith
Yn ystod blwyddyn 1, caiff pob myfyriwr wybod am y modiwl (drwy hysbysiadau ar lein, cyflwyniad a thrwy'r system diwtorial), ynghylch yr angen i adnabod cyfleoedd gwaith neu wirfoddol addas yn ystod y cyfnod priodol. Bydd angen i'r cyfleoedd hyn gael eu cymeradwyo (a sicrhau gwiriadau priodol ynghylch agweddau Iechyd a Diogelwch a sicrwydd yswiriant), ond y nod fydd derbyn ystod mor eang a phosibl o gyfleoedd yn unol a 'r nod academaidd gosodedig.
Gellir defnyddio profiad y cynlluniau hynny (er enghraifft Amaethyddiaeth) sydd a lleoliadau gorfodol eisoes fel sylfaen ar gyfer y modiwl hwn. Ar gyfer y cynlluniau heb leoliadau gwaith, mae rhyddid i gydlynwyr adnabod lleoliadau gwaith sy'n gysylltiedig a 'r radd os ydynt o'r farn fod hyn yn ddymunol yn academaidd ac y gellir eu darparu ar gyfer pob un o'r myfyrwyr sy'n dilyn y radd. Cyfrifoldeb cydlynwyr y cynlluniau fydd hyn.
Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol yn ystod 50 awr gyntaf y gwaith. Darperir pro-forma a bydd disgwyl i fyfyrwyr ysgrifennu cofnod ynddo unwaith bob diwrnod gwaith (neu gyfnod cyffiniol 8 awr ar gyfer gwaith rhan-amser). Cynorthwyir myfyrwyr gan adnoddau ar lein (a ddarperir ar Blackboard (ac fel pecynnau i'w lawrlwytho/i'w hargraffu ar gyfer y rheiny sydd heb fynediad i'r we). Bydd y dyddiadur myfyriol yn rhan o'r portffolio.
Ar ol cwblhau 50 awr o brofiad, bydd myfyrwyr yn gwneud cyfres o ymarferion ar lein gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch y sgiliau a ddatblygwyd ganddynt, y ffordd y mae cyflogwyr yn ystyried y rhain a sut y gellir cyfathrebu'r hyn a gyflawnwyd. Datblygir yr ymarferion drwy ymgynghori a'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd a'r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori a'r hasesu (fel cwestiynau amlddewis). Bydd yr ymarferion yn cydymffurfio a'r wyth dosbarth sgiliau a nodwyd gan y brifysgol a bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau'r pedwar sydd fwyaf perthnasol i'w swydd.
Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr lunio portffolio yn cynnwys (yn ogystal a'r dyddiadur):
a.tystiolaeth am y cyfnod gwaith
b.archwiliad sgiliau wedi'i gwblhau (yn seiliedig ar yr APPR)
c.tystiolaeth o ymwneud a'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blwyddyn 2
ch. Cynllun gweithredu CAMPUS yn adnabod camau i'w cymryd ym mlwyddyn 3
d. CV yn cynnwys y profiad a gafwyd yn ystod y lleoliad.
Darperir templedau priodol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ychwanegu profiad gwaith pellach at y portffolio a fydd yn ehangu ac yn adnodd ymhell ar ol diwedd y modiwl.

Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Cyfathrebu | Cyfathrebu profiadau sy’n gysylltiedig â'r gwaith a datblygiad sgiliau mewn ffyrdd a ddefnyddir gan gyflogwyr (CV) |
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ystyried cyflawniadau/profiadau a chynnwys y rhain yn y CV gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd a llunio cynllun gwella gyrfa |
| Datrys Problemau | |
| Gwaith Tim | |
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ystyried profiadau, adnabod diffygion sgiliau a chyfleoedd ar gyfer gwella sgiliau (dyddiadur myfyriol a chynllun) |
| Rhifedd | |
| Sgiliau pwnc penodol | |
| Sgiliau ymchwil | Adnabod cyfleoedd datblygu pellach yn y cynllun gwella gyrfa |
| Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5