Module Information

Cod y Modiwl
BG30820
Teitl y Modiwl
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  2 Awr  60%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad ysgrifenedig  2 Awr  60%
Asesiad Ailsefyll Asesiad llafar semester  10 Munud  40%
Asesiad Semester Asesiad llafar semester  10 Munud  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Arddangos gwybodaeth mewn cof o gydrannau systemau cynhyrchu da byw.

Adolygu a gwerthuso llenyddiaeth wyddonol a gweithredu'r canlyniadau er mwyn datblygu systemau cynhyrchu da byw.

Arddangos gwybodaeth mewn cof o sut mae gwyddoniaeth yn medru cael ei ddefnyddio i wella systemau atgenhedlu, llaetha, iechyd, tyfiant a datblygiad da byw.

Trafod y materion moesegol a chymdeithasol sydd yn gysylltiedig gyda'r defnydd o wyddor anifeiliaid.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yma'n archwilio'r ffyrdd y mae ymchwil yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu systemau cynhyrchu da byw mwy effeithlon.

Cynnwys

Bydd themâu ar gyfer y modiwl hwn yn cynnwys:
- Cynhyrchu da byw yn gynaliadwy
- Gwyddor cynhyrchu cig
- Gwyddor cynhyrchu llaeth
- Rheoli ffrwythlondeb da byw
- Rheoli parasitiaid
- Ffermio da byw manwl gywir

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Yn cael ei ddatblygu mewn seminarau a gwaith ysgrifenedig.
Datrys Problemau Bydd darlithoedd a seminarau yn datblygu ymwybyddiaeth o'r cydberthnasau cymhleth rhwng cydrannau systemau cynhyrchu anifeiliaid. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i adnabod a dadansoddi problemau, a bydd gwerthusiad o'r llenyddiaeth gwyddonol a'i defnydd yn darparu astudiaethau achos i arddangos sut mae gwyddoniaeth gymhwysol yn medru cael ei ddefnyddio i ddatrys problemau. Asesir mewn seminarau ag arholiad.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Yn datblygu sgiliau darllen a dehongli cyhoeddiadau gwyddonol, paratoi gwaith ysgrifenedig a chyflwyniadau seminar a gweithio i derfyn amser.
Rhifedd Dehongli cyhoeddiadau gwyddonol. Yn cael ei asesu mewn seminarau ac mewn arholiad.
Sgiliau ymchwil Datblygir drwy astudio llenyddiaeth gwyddonol ag asesir trwy'r aseiniad a'r arholiad.
Technoleg Gwybodaeth Asesir y defnydd o PowerPoint yn y cyflwyniad seminar.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6