Module Information

Cod y Modiwl
CY34220
Teitl y Modiwl
Traddodiad Benywaidd? Merched a Barddoniaeth 1400-1800
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2  Ailgyflwyno neu ailsefyll eldennau a fethwyd, a/neu gyflwyno elfennau coll 3000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1  Ailgyflwyno neu ailsefyll elfennau a fethwyd, a/neu gyflwyno elfennau coll 3000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 2  Er mwyn sicrhau cyfle i fyfyrwyr wneud cynnydd academaidd a gwella eu perfformiad o’r naill asesiad i’r llall, ceir elfen o asesu cynydddol, sef neilltuo 1 gweithdy dwyawr ar gyfer trafod syniadau myfyrwyr ar gyfer Traethawd 2. 3000 o eiriau  60%
Asesiad Semester Traethawd 1  3000 o eiriau  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dangos dealltwriaeth o’r fframwaith theoretig rhyweddol a ffeminyddol ehangach.

adnabod a thrafod prif dueddiadau yn y maes a’u hoblygiadau i ganu merched a’r canon llenyddol Cymraeg ehangach, h.y. canu caeth v. canu rhydd; proffesiynoldeb v. amaturiaeth; themâu; genres.

medru gosod rhai o feirdd benywaidd Cymru tan tua 1800 yn eu cyd-destun hanesyddol a llenyddol, gan gynnwys eu perthynas â’r gyfundrefn farddol.

pwyso a mesur cynnyrch a themâu beirdd unigol yn feirniadol.

medru adnabod dimensiwn cymharol themâu, genres, a thueddiadau cyffredinol beirdd benywaidd Cymru, Lloegr, Iwerddon a’r Alban.

Disgrifiad cryno

Modiwl sy’n adlewyrchu gwaith ymchwil geinofeirniadol y cydlynydd yw’r modiwl hwn. Y mae’r modiwl, felly, yn sicrhau bod theori ffeminyddol a rhyweddol yn rhan o bortffolio dysgu’r Adran. Bydd fframwaith feminyddol/rhyweddol y modiwl, nid yn unig yn caniatáu i’r myfyrwyr gymhwyso’r fframwaith theoretig i’r llenyddiaeth a astudir, ond yn ysgogi myfyrwyr i ailystyried canon barddonol Cymraeg y cyfnod dan sylw. Mae cronoleg y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddarllen a dadansoddi testunau o’r Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar, ac i adnabod patrymau yng ngwaith beirdd benywaidd Cymru, sef ieithwedd, genre a themâu; yn arbennig y themâu hynny sy’n perthyn i’r cylch profiad benywaidd. Noder mai prin iawn yw’r canu ‘gwleidyddol’ agored gan feirdd benywaidd Cymru’r cyfnod dan sylw. Cynhwysir dimensiwn cymharol trwy drafod y gorgyffwrdd thematig a generig yng ngwaith beirdd benywaidd Iwerddon a’r Alban, lle bo hynny’n briodol.
Canolbwyntir ar gyfnod allweddol yn hanes merched a barddoniaeth yng Nghymru; sef cyfnod o dwf graddol yn y nifer o ferched a farddonai yn y Gymraeg. Cynigir arolwg o dueddiadau cyffredinol yn y maes a rhoddir sylw manwl i farddoniaeth rhai o’r beirdd benywaidd ‘anghofiedig’ er mwyn cadarnhau’r tueddiadau a’r patrymau cyffredinol a amlinellir. Rhoddir sylw i ffactorau megis cefndir sosio-economaidd, y tyndra rhwng proffesiynoldeb ac amaturiaeth, ynghyd â dewis themâu, mesurau a genres y beirdd benywaidd. Darllenir detholiad o gerddi yn fanwl a, lle bo’n briodol, trafodir themâu a genres cytras ym marddoniaeth menywod yn Lloegr, Iwerddon a’r Alban.

Cynnwys

Cyflwyno’r maes
• Cyflwyniad i fframwaith astudiaethau rhywedd a ffeminyddiaeth (cyd-destun Ewropeaidd ac Eingl-Americanaidd; twf y ddisgyblaeth yng Nghymru a’i heffaith ar y canon llenyddol; lle’r modiwl hwn yn hanesyddiaeth y ddisgyblaeth; cyfiawnhau bodolaeth modiwl fel hwn fel rhan o’r ddadl dros brif-ffrydio astudiaethau rhywedd/ffeminyddiaeth).
• Cyfraniad merched i ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru a dilysrwydd ‘traddodiad benywaidd’ fel cysyniad. Trafodir tueddiadau cyffredinol megis rhwystrau ar lwybr bardd benywaidd (disgwyliadau domestig, dosbarth sosio-economaidd, addysg a llythrennedd, y traddodiad barddol); y canu caeth a hyfforddiant amatur y bardd benywaidd; y canu rhydd a’r twf cyfochrog yn y nifer o feirdd benywaidd; pwysigrwydd cyfryngau diwylliant yn y naratif, sef llafaredd a throsglwyddo llafar, diwylliant llawysgrifol a diwylliant print.

Y canon llenyddol benywaidd: lleisiau, themâu a genres
• Gwenllian ferch Rhirid Flaidd a Gwerful Mechain (15g): trosglwyddo llafar a diwylliant llawysgrif; canu caeth a pherthynas menywod â chylchoedd barddol gwrywaidd; canu maswedd; y ddadl ynghylch merched.
• Alis ferch Gruffudd ab Ieuan a Catrin ferch Gruffudd ap Hywel (16g): canu achlysurol; priodas; canu defosiynol; Y Dwiygiad Protestannaidd.
• Siân Briwtwn (16g): cyfeillgarwch rhwng merched (darllenir testunau diweddarach gan ferched eraill hefyd).
• Catrin Owen ac Elen Gwdmon (17g): llais y ferch; cyngor mam; twf y canu rhydd a’i oblygiadau rhyddfreiniol a chreadigol i ferched.
• Angharad James (17g–18g) ac eraill: canu rhydd versus canu caeth; priodas; marwnadau mamau i’w plant. (Darllenir testunau eraill gan ferched ochr yn ochr â cherddi Angharad James).
• Marged Dafydd (18g): y mudiad hynafiaethol; marwnad; cyfeillgarwch rhwng merched.
• Merched a’r emyn (18g): Dorothy Jones, Ann Griffiths ac eraill: trosglwyddo llafar, lle menywod yn y traddodiad emynyddol; canu crefyddol fel cyfrwng rhyddfreiniol i ferched.

(Er mwyn sicrhau cyfle i fyfyrwyr wneud cynnydd academaidd a gwella eu perfformiad o’r naill asesiad i’r llall, neilltuir 1 gweithdy dwyawr ar gyfer trafod syniadau myfyrwyr ar gyfer Traethawd 2.)

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Anogir myfyrwyr i fynegi eu syniadau yn glir yn yr aseiniadau ysgrifenedig.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithlon a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau penodol.
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu tiwtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifendig arall. Bydd modd i fyfyrwyr wella eu gallu i ddarllen a dehongli testunau hanesyddol.
Rhifedd amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau mewn Cymraeg Canol a Chymraeg Modern Cynnar, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad yr iaith Gymraeg.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer asesiadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniadau a chyflwyniadau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6