Module Information

Cod y Modiwl
FG05700
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Ffiseg Labordy ar gyfer Ffisegwyr a Pheirianwyr
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
TGAU Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
PH05720 Ddim ar gael i fyfyrwyr ar gynllun gradd Baglor 3 blynedd neu ar gynllun gradd Meistr Integredig.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y bwrdd arholi adrannol  100%
Asesiad Semester Dyddiadur labordy ysgrifenedig  60%
Asesiad Semester Adroddiad ffurfiol ysgrifenedig  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Cyflawni arbrofion syml yn y gwyddorau ffisegol

2. Cyflawni dadansoddiad syml o gyfeiliornadau mewn mesuriadau

3. Llunio casgliadau priodol o ganlyniadau

4. Cyflwyno a dadansoddi gwaith mewn dyddiadur labordy

5. Disgrifio gwaith mewn adroddiad ffurfiol

6. Trafod gwaith mewn cyflwyniad llafar

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i waith arbrofol yn y gwyddorau ffisegol. Rhoddir pwyslais ar hyfforddi myfyrwyr i ddefnyddio offerynnau sylfaenol, gwneud cyfrifiadau cyfeiliornadau syml ac asesu'r canlyniadau yn feirniadol er mwyn dod i gasgliadau dibynadwy. Mae'r arbrofion wedi'u cynllunio i adlewyrchu testunau damcaniaethol a gyflwynir mewn modiwlau eraill – felly mae'r arbrofion yn cwmpasu priodweddau mater, grymoedd, mecaneg, trydan, magneteg ac electroneg. Datblygir sgiliau cyflwyno yng nghyd-destun yr arbrofion.

Cynnwys

Mae'r modiwl yn cynnwys set o arbrofion o wahanol feysydd o Ffiseg sy'n cynnwys: osgiliadau, tonnau, ffiseg thermol, trydan, magneteg ac electroneg. Bydd y myfyrwyr yn cyflawni'r rhain mewn cylchdro.
Ar gyfer cyflwyniad y gwaith disgwylir i bob myfyriwr gadw Dyddiadur Labordy gan nodi cynnydd manwl pob arbrawf, ysgrifennu adroddiad ffurfiol ar arbrawf neilltuol a rhoi cyflwyniad llafar.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cofnodi arbrofion yn y dyddiadur labordy. Cyd-weithio mewn grwpiau bychain i gyflawni arbrofion. Cyfathrebu canlyniadau drwy adroddiad ffurfiol a chyflwyniad llafar.
Datrys Problemau Caiff myfyrwyr eu hannog i gyflawni'r arbrofion a chynnig dulliau a datrysiadau.
Gwaith Tim Mae'r myfyrywr yn gweithio mewn grwpiau bychain ar bob arbrawf ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ystyried y gwaith yn feirniadol ac adlewyrchu i asesu'r modd y cyflawnwyd arbrawf a sut y gellid ei wella.
Rhifedd Mae sgiliau mathemategol yn ganolog i ddeall a chymhwyso'r theori sylfaenol. Cofnodi data wrth gynnal arbrofion. Cymhwyso dadansoddiad cyfeiliornad sylfaenol i fesuriadau. Asesir drwy ddyddiaduron labordy ac adroddiad ffurfiol.
Sgiliau pwnc penodol Cymhwyso theori sylfaenol yn y gwyddorau ffisegol i ddulliau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Mae angen ymchwil cefndirol a sgiliau cyfeirio elfennol ar gyfer adroddiad ffurfiol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir prosesydd geiriau i baratoi'r adroddiad ffurfiol. Defnyddir PowerPoint neu becyn cyfatebol yn y cyflwyniad llafar. Defnyddio offer arbrofol sylfaenol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 3