Module Information

Cod y Modiwl
FG15700
Teitl y Modiwl
Technegau Labordy ar gyfer Ffisegwyr Arbrofol a Pheirianwyr (20 Credyd)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Pre-Requisite
Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg neu gyfatebol
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Fel bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%
Asesiad Semester Dyddiaduron Labordy Ysgrifenedig.  Caiff y myfyrwyr eu hasesu ar ansawdd eu nodiadau yn ystod arbrofion. Mae pob arbrawf yn unigryw ac mae hyd yr ysgrif sydd ei hangen yn wahanol. Y gofyniad lleiaf yw 200 gair yr arbrawf.  70%
Asesiad Semester Adroddiadau Labordy Ysgrifenedig  (2 x 1000 gair)  30%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos cymhwysedd ymarferol a chywirdeb wrth gynnal gweithdrefnau arbrofol, gan gynnwys mesur, defnyddio offer gwyddonol a chofnodi canlyniadau.

Ysgrifennu adroddiad gwyddonol clir gan gynnwys y cefndir damcaniaethol, disgrifiad arbrofol, cyflwyniad a dadansoddiad o ganlyniadau, a dehongli a gwerthuso.

Adnabod mathau o ansicrwydd mewn arbrawf a phenderfynu ar ledaeniad y cyfeiliornadau.

Dangos y gallu i weithio gydag eraill mewn modd ystyriol a chydweithredol.

Parchu a chydnabod eiddo deallusol eraill.

Disgrifiad cryno

Mae arbrofi yn ran sylfaenol o'r gwyddorau ffisegol. Mae'n ein galluogi i ddeall y byd o'n cwmpas, i ddatblygu damcaniaethau ac i brofi'r damcaniaethau hynny. Yn y modiwl yma byddwch yn dysgu'r technegau sylfaenol o gynnal arbrofion, gwneud mesuriadau, rhoi sylw i ansicrwydd yn eich mesuriadau, dadansoddi canlyniadau a'u cymharu gyda theori.

Mae modiwlau arbrofol y cynlluniau gradd wedi eu llunio fel bo myfyrwyr yn datblygu o ddilyn set o gyfarwyddiadau manwl i gyflawni arbrofion syml ar y dechrau, i ymchwilio testun a datblygu eu harbrofion a'u hymchwilio eu hunain yn eu prosiectau blwyddyn olaf.

Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno israddedigion i waith labordy mewn meysydd allweddol o'r gwyddorau ffisegol, sy'n gallu cael eu defnyddio i ddeall y byd o'n cwmpas. Rhoddir pwyslais ar gywirdeb cymryd nodiadau. Bydd disgwyl i'r israddedigion gadw dyddiadur labordy wrth iddynt gynnal yr arbrofion. Yn ogystal â'r nodiadau yn y dyddiadur, bydd disgwyl i'r myfyrwyr ysgrifennu am ddau o'r arbrofion mewn adroddiadau ffurfiol, gan gynnwys ymchwilio i gefndir y testunau. Yn ychwanegol at hyn, yn yr ail semester bydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o recordio a chyflwyno data gan ddefnyddio dyfeisiau electronig a phecynnau cyfrifiadurol.

Cynnwys

• Dadansoddi cyfeiliornadau sylfaenol.
• Cadw dyddiaduron labordy ac ysgrifennu adroddiadau.
• Mae'r arbrofion yn seiliedig ar bynciau craidd yn y gwyddorau ffisegol, yn cwmpasu meysydd allweddol drwy ymchwilio ymarferol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiadur labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar yr arbrofion. Bydd yr myfyrwyr yn gweithio mewn parau a grwpiau bychain, gan drafod eu darganfyddiadau arbrofol.
Datrys Problemau Bydd y myfyrwyr yn defnyddio technegau datrys problemau yn ystod yr arbrofi ac wrth drin data o'r arbrofion.
Gwaith Tim Yn gyffredinol bydd y myfyrwyr yn gwneud yr arbrofion mewn grwpiau o ddau a byddwn yn annog cydweithio wrth ddatrys problemau modelu.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bob wythnos bydd yr adborth a roddir ar y dyddiaduron labordy yn annog y myfyrywr i ddatblygu eu sgiliau o ysgrfennu nodiadau.
Rhifedd Yn ei hanfod, mae'r gwyddorau ffisegol yn seiliedig ar ddefnyddio mathemateg a mesuriadau arbrofol. Mae defnyddio rhifau yn ran ganolog o'r modiwl yma.
Sgiliau pwnc penodol Defnyddio offer gwyddonol. Cynnal arbrofion. Ysgrifennu mewn dull gwyddonol. Dadansoddi cyfeiliornadau arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Mae dadansoddi data modern yn ddibynnol ar ddefnyddio cyfrifiaduron. Bydd y myfyrwyr yn defnyddio pecyn cyfrifiadurol i ddadansoddi data mewn rhai o'r arbrofion, a disgwylir iddynt ddefnyddio prosesydd geiriau ar gyfer eu hadroddiadau labordy.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4