Module Information

Cod y Modiwl
CY20520
Teitl y Modiwl
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Pre-Requisite
cynhelir prawf mynediad byr i bwyso a mesur lefel iaith myfyrwyr gyda golwg ar adnabod a yw'r modiwl hwn yn addas ar eu cyfer, neu ynteu fodiwl arall
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Portffolio o dasgau  (4 eitem e.e. adroddiad, cofnodion, datganiad i’r wasg; llythyr cais;) 1,500 o eiriau  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Llafar  (10 munud)  20%
Asesiad Ailsefyll Portffolio o gyfieithiadau  (Tasgau cyfieithu: 1 dasg gyfieithu dan amodau arholiad, 1 dasg drawsieithu ac 1 dasg gyfieithu sy'n gofyn am ddau gywair) 1,500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Portffolio o gyfieithiadau  (Tasgau cyfieithu: 1 dasg gyfieithu dan amodau arholiad, 1 dasg drawsieithu ac 1 dasg gyfieithu sy'n gofyn am ddau gywair) 1,500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Portffolio o dasgau  (4 eitem e.e. adroddiad, cofnodion, datganiad i’r wasg; llythyr cais;) 1,500 o eiriau  40%
Asesiad Semester Cyflwyniad Llafar  (10 munud)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol yng nghyd-destun ieithyddol a gwleidyddol presennol Cymru, ac ymgyrchoedd a pholisi Llywodraeth Cymru yn benodol.

Dangos adnabyddiaeth o’r adnoddau llyfryddol ac electronig sydd ar gael i gefnogi’r defnydd a wneir o’r Gymraeg yn y gweithle.

Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg, a medru eu defnyddio yn briodol mewn tasgau ysgrifenedig penodol, e.e. cofnodion neu adroddiad ffurfiol.

Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg, a medru eu defnyddio yn briodol ar lafar.

Medru drafftio a chyfieithu tasgau ysgrifenedig penodol yn Gymraeg, a dangos datblygiad o ran cywirdeb.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol iddynt yng ngweithleoedd dwyieithog Cymru wrth i’r rheiny ymateb i’r Safonau Cymraeg ac ymgyrch Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Nod

Lluniwyd y modiwl hwn gyda golwg ar ehangu’r cyfleoedd cyflogadwyedd sydd ar gael yn yr Adran i fyfyrwyr yn y ffrydiau Ail Iaith a Dechreuwyr. Cefnogir darpariaeth Gymraeg y brifysgol drwy agor y modiwl i fyfyrwyr o adrannau eraill ar draws y sefydliad.

Cynnwys

Trafodir y pynciau canlynol ar ffurf Darlith a Gweithdy ymarferol wythnosol (2 awr yr wythnos). Rhoddir sylw i eirfa a chysyniadau priodol:
1: Y Gymraeg yn y Gweithle Proffesiynol: Llywodraeth Cymru a pholisi iaith; Comisiynydd y Gymraeg a Safonau’r Gymraeg; Miliwn o Siaradwyr Cymraeg.

2: Adnoddau’r Gymraeg yn y Gweithle Proffesiynol: geiriaduron a gramadegau; adnoddau electronig a meddalwedd; manteision ac anfanteision meddalwedd fel Google Translate. Yr heriau mae’r defnydd o feddalwedd a systemau yn y gweithle yn eu cynnig i sefydliadau sy’n gweithredu’r Safonau Iaith, h.y. rhyngwynebau Saesneg a’r angen am ddatblygwyr meddalwedd dwyieithog a/neu gyfieithwyr arbenigol.

3: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: cyweiriau’r Gymraeg;

4: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: ysgrifennu ar gyfer y we a llythyrau ffurfiol

5: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: adroddiadau a chrynodebau

6: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: llunio cofnodion

7: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: datganiadau i’r wasg

8: Gweinyddu yn y Gweithle Proffesiynol: golygu a phrawf-ddarllen dogfennau

9 & 10: Sgiliau llafar yn y Gweithle Proffesiynol: cyflwyniadau llafar a chyfweliadau

Yn ateg i’r sesiynau, uchod, cynhelir Gweithdy wythnosol a fydd yn rhoi sylw i gyfieithu yn y gweithle, gan gynnwys cyfieithu perianyddol. Bydd y gweithdai ymarferol hyn yn datblygu sgiliau cyfieithu ac addasu myfyrwyr, a hefyd yn gweithredu fel syrjeri iaith a gramadeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trafod materion ymarferol yn y gweithdai; medru cyfiawnhau penderfyniadau ieithyddol ac arddulliol wrth gyfieithu; dewis cywair iaith priodol mewn tasgau ysgrifenedig a llafar.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y sgiliau cyflogadwyedd a ddatblygir ar y modiwl hyn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith proffesiynol. Arfogir myfyrwyr i weithio mewn sefydliadau sy’n gweithredu’r Safonau Iaith gan fod yn ymwybodol o’r heriau a gallu rhoi ar waith y datrysiadau i sicrhau gweithle dwyieithog sy’n hyderus yn ei allu i gydymffurfio â’r Safonau Iaith.
Datrys Problemau Adnabod yr heriau sy’n wynebu gweithleoedd wrth ddatblygu prosesau i’w galluogi i weithredu’n ddwyieithog yn unol â’r Safonau Iaith, a chanfod datrysiadau ymarferol. Ymateb i’r newyddion mewn cyfnod byr wrth lunio datganiad i’r wasg; gwneud penderfyniadau yngylch cywair ac arddull wrth gyfieithu.
Gwaith Tim Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod gweithdai.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod a datblygu syniadau; bydd y ddau bortffolio o dasgau yn caniatáu i fyfyrwyr fesur eu perfformiad a’u datblygiad personol o dasg i dasg.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Bydd y sgiliau ymarferol ac ieithyddol trosglwyddadwy o ddefnydd i fyfyrwyr yn y brifysgol ac yn y gweithle. Gweler hefyd vii, uchod.
Sgiliau ymchwil Wrth ddysgu am yr adnoddau electronig sydd ar gael i gefnogi gwaith cyfieithu a gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg
Technoleg Gwybodaeth Defnyddir rhaglen prosesu geiriau i gynhyrchu’r tasgau. Dysgir sut i ddefnyddio meddalwedd cyfieithu megis Google Translate yn gywir. Dysgir sut i ddefnyddio adnoddau ieithyddol ar-lein megis Geiriadur yr Academi a Cysgeir.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5