Module Information

Cod y Modiwl
CY25320
Teitl y Modiwl
Rhyddiaith Tri Chwarter Canrif (1900-1979)
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd 2  3000 o eiriau  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd 1  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 1  2000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 2  3000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos dealltwriaeth o dirwedd wleidyddol, ddiwylliannol a llenyddol y cyfnod.

Dangos dealltwriaeth o’r eirfa gysyniadol arbenigol a ddefnyddir wrth drafod y cyfnod.

Medru ymateb yn feirniadol i ystod eang o destunau gan y llenorion a enwyd uchod ac eraill.

Gwerthfawrogi y gellir trafod rhyddiaith y cyfnod o ran cyd-destun hanesyddol, yng ngoleuni gwaith ehangach y llenorion perthnasol; o safbwynt y derbyniad a roddwyd iddo; yn ei hawl ei hun fel gwrthrych.

Disgrifiad cryno

Cyflwyniad i brif awduron a mudiadau llenyddol y cyfnod rhwng 1900 a 1979.

Nod

Mae’r modiwl hwn yn sicrhau bod deunydd canonaidd yr 20fed ganrif yn rhan o arlwy’r Adran. Gellir ei ystyried yn ogystal yn gymar naturiol i CY35420 (Barddoniaeth Tri Chwarter Canrif).

Cynnwys

1. Cymru ar drothwy’r ugeinfed ganrif
2, Olynwyr Daniel Owen: awduron nofelau cynnar y ganrif
3. Y stori fer yn nechrau’r ganrif
4. Cymru ail chwarter yr ugeinfed ganrif
5. Storïau byrion Kate Roberts
6. Ysgrifau T. H. Parry-Williams
7. Ysgrifau R. T. Jenkins ac E. Tegla Davies
8. Gweithdy
9. Storïau byrion John Gwilym Jones
10. Cymru’r 1950au
11 Twf y nofel: Kate Roberts
12 Twf y nofel: Islwyn Ffowc Elis
13. Twf y nofel: John Rowlands
14. Twf y nofel: Jane Edwards
16. Gweithdy
17. Cymru 1960-79
18 Hunangofiannau llenyddol a ‘gwleidyddol’
19. Llyfrau taith
20. Nofelau hanes

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau hanfodol (megis delio â llif gwaith yn wythnosol, trefnu amser yn effeithiol a chyflawni ymchwil yn annibynnol) drwy gydol y modiwl.
Datrys Problemau Trwy ymwneud yn feirniadol, ar lafar ac ar bapur, â chysyniadau deallusol sy’n codi o’r cyd-destun hanesyddol ac o destunau llenyddol penodol
Gwaith Tim Trwy gyfrannu at drafodaethau grŵp ynghylch y testunau a’r cysyniadau allweddol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy ymchwil annibynnol; adborth eu twtoriaid ar waith ysgrifenedig a chyfraniadau llafar; ymwneud â chymheiriaid yn ystod trafodaethau grŵp; datblygu sgiliau trefnu amser/gwaith; myfyrio ar sgiliau cyflwyno a gwaith ysgrifenedig arall.
Rhifedd Amherthnasol.
Sgiliau pwnc penodol Trwy feithrin gallu myfyrwyr i ddarllen a deall testunau, a thrwy hynny ddysgu mwy am ddatblygiad ymateb llenorion i Gymru a’r byd ar ôl 1979.
Sgiliau ymchwil Trwy gyfrwng ymchwil annibynnol ar gyfer aseiniadau ysgrifenedig (traethawd) a chyfraniadau i drafodaethau grŵp. Hefyd, trwy ddefnyddio ymchwil electronig ac adnoddau electronig a llyfryddol.
Technoleg Gwybodaeth At ddibenion ymchwil (aseiniad a thrafodaethau); prosesu geiriau. Defnyddio ymchwil electronig ac adnoddau llyfryddol; cael mynediad i adnoddau’r modiwl ar y BwrddDu.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5