Language campaigner Heini Gruffudd receives Honorary Fellowship of Aberystwyth University

Aberystwyth University Honorary Fellow Heini Gruffudd (right) and Dr Bleddyn Huws, Senior Lecturer in the Department of Welsh and Celtic Studies.

Aberystwyth University Honorary Fellow Heini Gruffudd (right) and Dr Bleddyn Huws, Senior Lecturer in the Department of Welsh and Celtic Studies.

18 July 2017

Teacher, author, and language campaigner, Heini Gruffudd has been honoured as Fellow of Aberystwyth University.

Chairman of Dyfodol i’r Iaith, the lobbying organisation for the Welsh language, and of Tŷ Tawe Welsh Centre in Swansea, Heini is an alumnus of Aberystwyth University (BA Welsh, 1967; Diploma in Education, 1968; Master of Arts, 1974) and a former lecturer at Swansea University.

He has campaigned for forty years for Welsh education and is the author of several books for Welsh learners.

He has led several research projects on the use of Welsh in education and among young people, focusing on the importance of language use in the home, in the community and among friends.

He won Wales Book of the Year in 2013 for Yr Erlid, which details his family history in Wales and Germany at the time of the Second World War.

Heini Gruffudd was presented as Fellow on Tuesday 18 July by Dr Bleddyn Huws, Senior Lecturer in the Department of Welsh and Celtic Studies.

Presentation of Heini Gruffudd:

Ddirprwy Ganghellor, Is-Ganghellor, darpar raddedigion a chyfeillion. Braint a phleser o’r mwyaf yw cyflwyno Heini Gruffudd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chanchellor, Vice-Chanchellor, prospective graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Heini Gruffudd as Fellow of Aberystwyth University.

Brodor o ddinas Abertawe yw Heini Gruffudd lle y bu cyn ymddeol yn ddarlithydd yn Adran Addysg Barhaus i Oedolion y Brifysgol, ac mae’n adnabyddus fel awdur ac addysgwr ac ymgynghorydd iaith. Fe’i magwyd ar aelwyd hynod ddiwylliedig ac eangfrydig: yr oedd ei rieni, J. Gwyn Griffiths a Kate Bosse-Griffiths yn llenorion ac yn ysgolheigion, y ddau yn Eifftolegwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Ei fam, Kate Bosse oedd Curadur cyntaf casgliad Canolfan Eifftaidd y Brifysgol, ac yr oedd ei dad yn Athro’r Clasuron ac Eifftoleg. Yr oedd y ddau yn genedlaetholwyr pybyr.

Mae’r gwerthoedd a gafodd ar yr aelwyd gartref wedi llywio cwrs a chyfraniad Heini i fywyd Cymru, yn arbennig felly ei waith yn hybu dwyieithrwydd trwy ddysgu Cymraeg i blant ac oedolion a darparu deunydd dysgu. Seiliwyd ei gyfres boblogaidd o lyfrau ar gyfer dysgwyr ar waith ymchwil i ddulliau dysgu iaith. Mae llawer ohonom rwy’n siŵr wedi clywed am rai  o deitlau’r gyfres honno, Welsh is Fun!, The Welsh Learner’s Dictionary a Street Welsh. Y mae’n cael ei gydnabod yn awdurdod rhyngwladol yn ei faes, ac mae wedi cynnal nifer o weithdai ar ddysgu iaith yn rhai o wledydd Ewrop yn ogystal ag yn yr Unol Daleithiau. Cafodd ei gomisiynu gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a chan Lywodraeth Cymru i lunio adroddiadau ar ddulliau adfer iaith. Ef ar y cyd â Steve Morris a oedd yn gyfrifol am y gwaith ymchwil a wnaed gan Academi Hywel Teifi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2012 i Ganolfannau Cymraeg a Rhwydweithiau Cymdeithasol Oedolion sy’n dysgu’r iaith. Arweinodd hynny at bolisi Llywodraeth Cymru o greu’r Canolfannau Cymraeg yn 2015.

Yn ogystal â’i waith yn y maes ar lefel broffesiynol, y mae hefyd wedi cyfuno ei ddiddordebau academaidd â’i ddoniau ymarferol fel ysgogydd ac arweinydd mudiadau a mentrau ar lawr gwlad. Ef oedd un o sylfaenwyr Tŷ Tawe yn 1987, canolfan sydd bellach yn gartref i Fenter Iaith Abertawe. Bu’n weithgar fel Cadeirydd y mudiad cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg, a heb gyfraniad allweddol y mudiad hwnnw, go brin y buasem wedi gweld y twf aruthrol a fu yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ystod y degawdau diwethaf. Mae’n ymgyrchydd wrth reddf, a’r ysbryd ymgyrchol ymarferol, adeiladol a chadarnhaol hwnnw a’i harweiniodd i swydd Cadeirydd mudiad Dyfodol i’r Iaith, sef y mudiad a sefydlwyd i ddylanwadu’n gyfansoddiadol ar bolisi cyhoeddus a deddfwriaeth sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg.

Y mae Heini hefyd yn awdur ac yn llenor. Ef yw awdur un o’r llyfrau Cymraeg sydd wedi gwerthu orau erioed, sef Enwau Cymraeg i Blant, llyfr yr ydw i’n mawr obeithio y bydd ein darpar raddedigion yn gwneud cryn ddefnydd ohono yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ond y gyfrol ganddo a wnaeth yr argraff fwyaf ar ddarllenwyr oedd Yr Erlid, sy’n olrhain hanes yr erledigaeth a ddioddefodd teulu ei fam o dan y drefn Natsïaidd yn yr Almaen. Enillodd y gyfrol Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013, a bellach mae wedi ei chyfieithu i’r Saesneg ac i’r Almaeneg. Cynhyrchwyd rhaglen ddogfen o’r enw ‘Y Trên i Ravensbrück’ gan gwmni Rondo yn seiliedig ar yr hanes, ac fe enillodd y rhaglen ddwy o wobrau BAFTA.

Y mae Heini yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar y radio a’r teledu, a pha bryd bynnag y bydd yn llefaru ac yn sylwebu, fe geir ganddo’r cyfuniad anhepgorol hwnnw o rinweddau sy’n sail i drafodaeth wâr, sef gwybodaeth a doethineb, dwy briodwedd hefyd sy’n sail i fywyd a gwaith prifysgol.

Cydnabuwyd cyfraniad pwysig Heini Gruffudd i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg gan Brifysgol Abertawe trwy gyflwyno iddo ddoethuriaeth er anrhydedd. Mae’n fraint i’r brifysgol hon gael cyfle i gydnabod ei gyfraniad hefyd.

Ddirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno i chi Heini Gruffudd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Heini Gruffudd to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Heini Gruffudd with Miss Gwerfyl Pierce Jones, Pro-Chancellor

Pro Chancellor Miss Gwerfyl Pierce Jones, Heini Gruffudd, and Vice-Chancellor Professor Elizabeth Treasure‌

Aberystwyth University Honours 2017

Eight individuals are being honoured by Aberystwyth University during the 2017 graduation ceremonies, which take place at the University’s Arts Centre from Tuesday 18 July until Friday 21 July.

Six Honorary Fellowships will be presented to individuals who have, or have had a connection with Aberystwyth or Wales, and who have made an outstanding contribution to their chosen field.

Two Honorary Bachelor degrees will be presented.  These are presented to individuals who are members of Aberystwyth University staff without an entry-level degree in recognition of long-service, contribution and dedication to the Institution; and members of the local community who have made a significant contribution to Aberystwyth and the area.

Honorary Fellowships:

Lance Batchelor, Aberystwyth alumnus and Chief Executive Officer of Saga plc.

Professor Martin Conway, Fellow and Tutor in History at Balliol College, Oxford, and Professor of Contemporary European History.

Gareth Howell, an Aberystwyth law graduate who has shown innovative leadership in devising practical solutions to problems in countries facing extreme transitions in their national life.

Heini Gruffudd, Aberystwyth alumnus, teacher, author, and language campaigner, and chairman of Dyfodol I’r Iaith, the lobbying organisation for the Welsh language.

Dr Louise Rickard, Welsh Rugby centurion and Aberystwyth alumna, and currently Head of Biology at Woodbridge School in Suffolk.

Dato’ Mohamed Sharil bin Mohamed Tarmizi LLB, an Aberystwyth University alumnus and former telecoms, media and postal regulator in Malaysia.

Honorary Bachelor Degrees:

Alan Lovatt, Senior Grass Breeder in the Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences (IBERS) at Aberystwyth University.

David Alun Jones, Vice President of the Football Association of Wales (FAW) and President of the Central Wales Football Association.