Cymraeg/Welsh

This information is about the PGCE course in Welsh as a subject. As it is a requirement of the course to be able to speak and read Welsh, this information has not been translated into English. If you require information in English about this course, then please contact us at  education@aber.ac.uk or 01970-622104

Y Cwrs

Mae’r Gymraeg yn bwnc craidd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae’r sgiliau y bydd dysgwyr yn eu caffael fel rhan o wersi Cymraeg yn sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio yn draws bynciol ac yn drawsgwricwlaidd. Cyflwynir iddynt sgiliau defnyddiol drwy gyfrwng gweithgareddau fydd yn hybu eu datblygiad llafar, eu gallu i ddarllen a’u gallu i ysgrifennu. Anelir tuag at eu meithrin i ddod yn siaradwyr hyderus mewn amrywiol gyweiriau, yn ddarllenwyr brwd ac yn ysgrifennwyr hyderus fyddyn mynegi’u hunain yn glir a chroyw.

Drwy gyfrwng y cwrs yn y coleg, cyflwynir cyfleoedd i hyfforddeion ddatblygu sgiliau fydd yn eu galluogi i gynllunio gwersi, cwestiynu’n effeithiol, asesu cyflawniad disgyblion, paratoi adnoddau addysgu, rheoli dosbarth a strategaethau amrywiol i gyfoethogi’r holl broses o addysgu ar lawr y dosbarth. Rhoddir cyflwyniad i’r Gymraeg fel mamiaith ac fel ail iaith. Bydd digon o gyfleoedd i gymryd rhan weithredol yn y sesiynau drwy gyfrwng gwersi meicro, chwarae rôl, datblygu sgiliau meddwl ac arbrofi gyda syniadau newydd fydd, gobeithio yn fodd i danio dychymyg y dysgwyr yn y dosbarth! Canolbwyntir ar feithrin sgiliau defnyddiol drwy gyfrwng amrywiol weithgareddau ymarferol a pherthnasol i brofiad a gallu’r dysgwyr. Yn ychwanegol i’r pwnc bydd sesiynau yn eich paratoi ar gyfer agweddau trawsgwricwlaidd megis:

  • Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Sgiliau Allweddol
  • Sgiliau Meddwl 
  • Y Fagloriaeth
  • Cymorth Cyntaf
  • Amddiffyn Plant
  • Addysg Iechyd
  • Asesu ar gyfer dysgu
  • Datblygiad Cynaladwyedd a Dinasyddiaeth Fyd-eang  

Cymorth gyda Chostau Teithio 

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn eich cynorthwyo gyda chostau teithio i gyfweliad. 

Amodau derbyn 

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd yn rhaid cael gradd, gydag o leiaf 50% o’r radd honno’n Y Gymraeg neu’n gysylltiedig â’r Gymraeg mewn rhyw ffordd e.e Astudiaethau Cyfryngau, Drama. Bydd hefyd angen gradd C TGAU neu gymhwyster cyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg. Os nad yw hyn gennych, gallwch sefyll prawf yn y Brifysgol fydd yn cyfateb i’r cymhwyster ac a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i’r cwrs os byddwch yn llwyddiannus.