Ydy
ffwng yn fwy fel planhigyn.... |
 |
..... neu fel anifail?
|

|
Am amser maith, cafodd ffyngau eu grwpio'n anghywir gyda phlanhigion
gwyrdd, ond nid ydynt nac yn blanhigion nac yn anifeiliaid (er bod
ganddynt rai pethau yn gyffredin â'r ddau grw^p hyn)...
| Mae rhai ffyngau'n cynhyrchu
caws llyffant neu fadarch i daenu eu sborau atgynhyrchiol,
ac fe all y rhain ymddangos yn debyg i blanhigion.... |
 |
| Mae gan y rhan fwyaf o ffyngau gellfuriau
caled, fel planhigion.... |
Diagram o hyffa ffwng |
|
... ond nid yw gwir ffyngau yn cynnwys seliwlos (prif
gydran cellfuriau planhigion). Yn hytrach mae ganddynt
citin...
fel sgerbwd allanol trychfilod ! |
| |
|
| Mae
Ffyngau yn ffurfio eu teyrnas
eu hunain, y deyrnas FFYNGAU. Mae aelodau'r deyrnas hon yn rhannu
nifer o nodweddion yn gyffredin: |
1. Haploidedd:
Mae gan aelodau'r deyrnas hon ddim ond un set o gromosomau yn
eu cnewyll. Gelwir y cyflwr hwn yn Haploidedd.
Ddim ond wrth atgynhyrchu eu hunain bydd ffyngau yn troi'n Ddiploid
(gyda dwy set o gromosomau). |
2. Citin:
Fel planhigion, mae gan ffyngau gellfuriau. Ond yn wahanol
i blanhigion (sydd â'r polysacarid seliwlos fel eu prif
bolymer adeileddol), mae cellfuriau ffyngau yn cynnwys Citin,
sy'n helpu i roi cryfder a siâp i'r celloedd. Mae citin
i'w gael mewn anifeiliaid hefyd, yn sgerbydau allanol trychfilod. |
|
| 3. Hyffae a Myselia:
Mae gwir ffyngau yn tueddi i dyfu fel cytref o gelloedd wedi'u
cysylltu â'i gilydd i ffurfio 'edefyn' a elwir yn Hyffa
(lluosog, hyffae [>> mwy
o fanylion am ffurfiau lluosog termau]). Mae celloedd
hyffa yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd gan groesfur
a elwir yn Septwm, sy'n caniatáu i
faetholion lifo drwyddo ond sy'n cyfyngu organynnau i'r gell
y'u ffurfiwyd ynddi. Mae hyffae yn tueddu i ffurfio rhwydwaith
mwy o gelloedd a elwir yn Fyseliwm (lluosog,
myselia)

Diagram o hyffa
|

Diagram o dwf myseliwm
(pwyntiwch at y sbôr
i wneud iddo 'egino'!)
|
|
4: Sborau Anfudol:
Pe bai biolegydd ffyngau yn dweud wrthoch fod gan ffyngau
sborau anfudol, beth fyddai hynny'n golygu?
Mae ffyngau yn atgynhyrchu drwy gelloedd haploid
o'r enw Sborau
sy'n eu galluogi i daenu eu hepil dros bellter hir. Mae gan
organeddau eraill sborau hefyd, ond maent yn tueddu i fod
yn Fudol, hynny yw, maent yn medru symud
yn actif o le i le yn hytrach na dibynnu ar wasgariad gan
geryntau awyr neu ddw^r, neu gan anifeiliaid neu ddulliau
eraill. |
 |
Gochelwch:
Does neb wedi esbonio'r pedair rheol hyn wrth y ffyngau! Mae
nifer fawr o eithriadau. Nid oes ffurf twf myseliol gan furumau
fel burum sych (Saccharomyces cerevisiae), na chan
gytridau (mae
gan gytridau sborau mudol, hefyd!). |
Diagram o furum yn blaguro (pwyntiwch
i gychwyn) |
I gymhlethu'r darlun ymhellach, nid yw hyd yn oed
yr arbenigwyr yn medru cytuno ar beth sy'n gwneud ffwng yn ffwng.
Mae Mycolegwyr (biolegwyr sy'n astudio ffyngau)
hefyd yn astudio dau grw^p arall o organeddau, yr Oomycota
a'r Myxomycota.
Mae'r Oomycota yn Pseudofungi neu 'ffug-ffyngau'
– maent yn ymddangos fel ffyngau ac yn gweithredu fel ffyngau,
ond nid ydynt yn ffyngau; maent yn perthyn yn agosach i algâu.
Mae Myxomycota yn brotistiaid,
ac mae ganddynt gyfnod yn eu cylchred bywyd sy'n ymddangos yn debyg
i ameba.
Fel y gallwch weld, mae Dosbarthiad
y Deyrnas Ffyngau yn newid o hyd. Mae'n bosibl iawn y bydd y llyfr
rydych yn dibynnu arno i'ch cynorthwyo â'ch mycoleg wedi dyddio,
erbyn hyn!
|