Clefydau Ffyngaidd

ENGLISH

 

Cartref

Beth yw Ffyngau?

Dosbarthiad

Pwysigrwydd
Ffyngau

Astudio
ffyngau

Geirfa

Dolenni ac
adnoddau

 

 

 

 

Cyflwyniad

Rhaid i ffyngau gael hyd i faetholion. Yn wahanol i blanhigion, nid ydynt yn medru ffotosyntheseiddio, felly rhaid iddynt gael eu hegni gan organeddau eraill. Gellir rhoi’r strategaethau mae ffyngau yn eu defnyddio i gael eu maetholion mewn tri dosbarth gwahanol:

a) Pydr-borthiant (Saprotroffi)

Y rhain yw’r sborionwyr, sy’n bwyta defnydd organig marw a phydredig ac sy’n gwneud llawer iawn o les. Mae’r darn am Ecoleg yn cynnwys mwy o wybodaeth amdanynt.

b) Bioborthiant (Biotroffi)

Mae bioborthiannwyr neu fiotroffau yn ffyngau sy’n cael eu bwyd o organeddau byw. Y term gorau am y rhain fyddai ‘parasitiaid’. Mae esblygiad wedi ffafrio bioborthiannwyr nad ydynt yn gwneud gormod o niwed, sef y rhai sydd efallai yn achosi rhywfaint o afiechyd yn yr organedd lletyol ond heb ei ladd. O ganlyniad gallant dreulio’u bywyd yn yr un organedd lletyol ac nid oes angen iddynt ‘boeni’ ormod am fyw y tu allan i’r organedd lletyol nac am ddod o hyd i un newydd.

c) Corffborthiant (Necrotroffi)

Yn hytrach nag ymaddasu i’w horganedd lletyol a chyd-fyw ag ef fel mae bioborthiannwyr yn ei wneud, mae corffborthiannwyr yn tueddu i ladd yr organedd lletyol. Maent wedyn yn medru gweithredu fel pydr-borthiannwyr, gan fwyta’n rhwydd ar y organedd lletyol marw cyn y bydd pydr-borthiannwyr eraill yn cyrraedd i gystadlu â nhw. Gan eu bod mor ffyrnig, rhaid iddynt ddod o hyd i organeddau lletyol newydd yn gyflym er mwyn eu cynnal eu hunain. Gan hynny, bydd gan gorffborthiannwyr fel arfer strategaethau ar gyfer ymledu’n gyflym, ac maent yn tueddu i ymosod ar amrediad mawr o rywogaethau lletyol. Er hynny, yn y tymor hir mae corffborthiannwyr yn medru dioddef oherwydd eu llwyddiant eu hunain. Os byddant yn ymledu’n rhy gyflym ac yn rhy ffyrnig, gallant ddinistrio eu horganeddau lletyol yn llwyr, gan eu dinistrio eu hunain hefyd. Gan hynny, mae esblygiad yn tueddu i ffafrio’r rhai sy’n fwy canolig o ran eu pathogenedd (sef eu gallu i achosi clefyd). Ond nid yw hyn yn rhwystro’r corffborthiannwyr rhag ceisio...


Dim ond y bioborthiannwyr a’r corffborthiannwyr sy’n achosi clefyd, felly byddwn yn ystyried y pathogenau hyn yma.

Clefydau Anifeiliaid

Clefydau Planhigion

 

 
 

 

Brig y tudalen

 

 

Testun a diagramau Hawlfaint © y cyfranwyr a PCA 2005- oni nodir yn wahanol. Datblygwyd y safle hwn gyda chefnogaeth HEFCW fel rhan o weithgareddau Canolfan Edward Llwyd. Cysylltwch â ni. Darllenwch y gwadiad os gwelwch yn dda.

 
Canolfan Edward Llwyd - Centre for Bilingual Science Countryside Council for Wales - Cyngor Cefn Gwlad link & logo HEFCW Fungal Biology home page