|
|
Cefndir hanesyddol a disgrifiadGeiriadur Prifysgol Cymru yw'r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol cyntaf. Gellir ei gymharu'n fras o ran ei ddull a'i gwmpas â'r Oxford English Dictionary, ond o ran ei fformat y mae hanner ffordd rhwng y geiriadur hwnnw a'r Shorter Oxford English Dictionary. Cyflwyna eirfa'r iaith Gymraeg, yn nhrefn yr wyddor, o weddillion Hen Gymraeg, trwy lenyddiaeth doreithiog y cyfnodau Canol a Modern, hyd at y ffrwydrad geirfa sy'n deillio o'r cynnydd parhaus yn y defnydd a wneir o'r iaith ym mhob agwedd ar fywyd yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Diffinnir yr eirfa hon yn Gymraeg, ond rhoddir cyfystyron Saesneg yn ogystal. Rhoddir sylw manwl i ffurfiau amrywiol, cyfuniadau, a tharddiad geiriau. Seilir y gwaith ar gasgliad o ryw ddwy filiwn o slipiau, pob un yn dwyn dyfyniad, a grynhowyd ynghyd gan ddarllenwyr gwirfoddol yn ogystal â chan aelodau o staff y Geiriadur, casgliad yr ychwanegir ato o hyd.
Y mae'r Geiriadur yn cynnwys cyfanswm o 7.3 miliwn o eiriau o destun yn gyfan gwbl mewn 3,949 o dudalennau sydd yn ffurfio pedair cyfrol fawr wedi eu trefnu o dan fwy na 105,000 o ddangoseiriau. Ceir bron i 350,000 o ddyfyniadau dyddiedig i enghreifftio defnydd y geiriau o'r flwyddyn 631 i 2002, gyda thros 320,000 o ddiffiniadau Cymraeg a 290,000 o gyfystyron Saesneg. O ddiwedd Rhan 36, staff y Geiriadur a fu'n gyfrifol am gysodi'r Geiriadur, gan ddefnyddio microgyfrifiaduron a set o raglenni a ddatblygwyd yn arbennig gan y staff. Mae rhai o'r nodweddion a gyflwynwyd fel sgilgynhyrchion y cysodi wedi gwella ansawdd y Geiriadur, wedi hyrwyddo rhai agweddau ar y golygu, ac wedi rhoi llawer mwy o reolaeth i staff y Geiriadur ar bob cam yn y cynhyrchu. Nodweddion y mae'n werth sylwi'n arbennig arnynt yw'r gallu i gymharu pob dyfyniad â'r cofnod cyfatebol mewn llyfryddiaeth gyfrifiadurol, a rhannu testun y Geiriadur i feysydd gwybodaeth rhifedig. Bydd hyn yn fodd i hyrwyddo trosi testun rhydd y Geiriadur i gronfa ddata heb ond ychydig o waith golygu, pan ddaw'n bryd cynhyrchu geiriaduron eraill wedi eu seilio ar yr un data. Dros gyfnod o ddeng mlynedd mewnosodwyd Rhannau 1 i 36 i'r gronfa ddata electronig, fel paratoad ar gyfer hyn. Y mae chwe aelod ar y staff olygyddol ynghyd â Swyddog Technegol, Ymgynghorydd Golygyddol rhan amser a Chynorthwyydd Golygyddol rhan amser. Goruchwylir y gwaith gan Banel Golygyddol ac mae'r Geiriadur yn elwa ar sylwadau athrawon a chyn-athrawon Cymraeg Prifysgol Cymru, a manteisir hefyd ar sylwadau, cywiriadau, a chyfraniadau nifer o ddarllenwyr proflenni gwirfoddol a chyfranwyr allanol. Mae'r staff wedi cwblhau ailolygu A ac ar hyn o bryd maent yn ailolygu B. Dechreuodd yr ailolygu yn Ionawr 2002. Cyhoeddir y gwaith fesul rhan 64 tudalen, a pharatoir fersiwn o'r Geiriadur cyfan ar gyfer y We (ond heb y dyfyniadau a rhai nodweddion eraill). Bwriedir cyhoeddi fersiwn llawn o'r Geiriadur ar lein. Gan fod y Gymraeg yn iaith fyw, bydd angen diweddaru'r gwaith yn gyson drwy ychwanegu geiriau ac ystyron newydd a chroesewir unrhyw gyfraniadau.Diddymwyd y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ar 1 Medi 2007 ac ymunodd y Geiriadur â Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, sefydliad yr oedd eisoes wedi bod yn rhannu adeilad ag ef er 1993 gerllaw Llyfrgell Genedlaethol Cymru, lle caniateir mynediad rhydd at y casgliad digyffelyb o ddefnyddiau Cymraeg. Yn 2008, yn dilyn ymddeoliad y ddau Gyd-Olygydd, Gareth A. Bevan a Patrick J. Donovan, ailstrwythurwyd cynllun staffio'r prosiect. Penodwyd Mr Andrew Hawke yn Olygydd Rheolaethol a dyrchafwyd Dr Manon Roberts a Dr Angharad Fychan yn Olygyddion Hŷn. |
"Gwaith pwysfawr a llafurus yw cyfansoddi Geirlyfr." "Lexicography is a species of writing, for which, to insure success, peculiar talents are requisite; such as, closeness of attention, indefatigable industry, a discriminating judgement, invincible patience, &c. - The toil required in the execution is immense" -- John Walters, An English-Welsh dictionary, 1794, vii. |
|
|
|
|||
![]() |
|
|||