Cyhoeddiadau:Geiriadur Prifysgol Cymru Ymgynghoriad Cyhoeddus ar dyfodol Geiriadur Prifysgol Cymru Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf 2009 Crynodeb o'r canlyniadau Daeth grŵp cymysg o ryw 25 o bobl ynghyd ar 4 Gorffennaf i glywed syniadau am ddyfodol cynllun Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC), geiriadur hanesyddol Cymraeg y Brifysgol, ac i drafod nifer o argymhellion a gyflwynwyd gan y Golygydd Rheolaethol (gw. copi o'r cyflwyniad isod). Pwysleisiodd nifer o gyfranwyr bwysigrwydd y Geiriadur fel adnodd cenedlaethol, a'r farn ei bod yn bwysig ei ddiweddaru'n barhaus i gofnodi datblygiadau yn y Gymraeg. Un o'r prif argymhellion oedd bod angen ychwanegu geirfa newydd ar draws yr wyddor yn ogystal â pharhau i ailolygu'r Geiriadur yn drylwyr. Cymeradwywyd hyn gan y cyfarfod. Ar y cyfan, ni ddyfynnir ar ôl tua 1803 (Geiriadur Pughe) yn yr Argraffiad Cyntaf. Cytunai pawb y byddai'n ddymunol cynnwys dyfyniadau enghreifftiol ar gyfer pob cyfnod, hyd y dydd hwn, yn hytrach na glynu at arferion yr Argraffiad Cyntaf. Dyfynnir yn helaethach o'r cyfnod diweddar yn B-, ond o C- ymlaen gobeithir y bydd modd gwneud cyfiawnder â'r cyfnod diweddar. Trafodwyd anfanteision geiriaduron printiedig:
a manteision geiriaduron electronig/ar lein:
Pwysleisiwyd bod llawer o wallau yn y data o'r ddwy gyfrol gyntaf oherwydd y ffordd y paratowyd y data (drwy eu teipio unwaith yn unig heb gael cyfle i'w prawfddarllen yn drylwyr), ond y teimlad cyffredinol oedd y byddai'n well cyhoeddi'r Geiriadur cyfan ar lein fel y mae, ac awgrymwyd y gellid nodi pa rannau o bob erthygl sydd yn llai dibynadwy fel rhybudd i ymchwilwyr sydd am eu dyfynnu. Cymeradwywyd bwriad y Geiriadur i gefnogi cais Canolfan Bedwyr i greu corpws cynrychioliadol traddodiadol diweddar (o ffynonellau printiedig yn bennaf) ac i barhau i gefnogi gwaith Yr Athro Kevin Scannell i ddatblygu ei gorpws gwe enfawr (o tua 120,000,000 o eiriau o destun hyd yn hyn) ymhellach. Soniwyd hefyd am y posibilrwydd o gael caniatâd awduron a golygyddion i gynnwys eu gweithiau mewn corpws testunol mawr ar gyfer gwaith y Geiriadur. (Nodwyd hefyd fod sawl casgliad testunol helaeth yn yr arfaeth, e.e. 144 o lyfrau cynnar o'r cyfnod 1546 -1700 drwy gynllun EEBO/TCP, a rhyw 220,000 o dudalennau o gylchgronau Cymraeg o'r 20fed ganrif (a rhan o'r 19eg ganrif) drwy gynllun Cylchgronau Cymru y Llyfrgell Genedlaethol, heb sôn am y cyfoeth cynyddol o ddeunydd ar y We, yn enwedig drwy gynlluniau digido fel Google Books. Crybwyllwyd yr adnoddau sain sydd ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol a'r Amgueddfa yn Sain Ffagan fel ffynhonnell wybodaeth bwysig, ond derbyniwyd na fyddai'n ymarferol i staff y Geiriadur eu defnyddio heb lawer o waith ychwanegol. Soniwyd am yr angen i gael cyhoeddwyr ac awduron/golygyddion i gynnig copiau electronig o'u cyhoeddiadau at ddefnydd y Geiriadur. Awgrymwyd y dylid paratoi cytundeb cyfreithiol er mwyn tawelu ofnau (di-sail) cyhoeddwyr y gallant golli eu hawliau dros y gwaith. Cafwyd peth trafodaeth ar swyddogaeth geiriadur hanesyddol: a ddylid cofnodi ffurfiau llai safonol (e.e. wrth decstio, blogio, &c.) neu a ddylai'r geiriadur fod yn gosod safon. Cydnabyddai'r rhan fwyaf fod yn rhaid i eiriadur hanesyddol fod yn ddisgrifiadol yn bennaf gan gynnal safonau orgraff cydnabyddedig. Soniwyd am arfer yr OED o ohirio ychwanegu geiriau neu dermau newydd i'r OED nes iddynt ennill eu plwyf dros gyfnod o amser. Teimlad rhai cyfieithwyr oedd ei bod yn bwysig bod bathiadau newydd ar gael yn fuan yn GPC er mwyn lledaenu eu defnydd. Pwysleisiwyd na allai GPC nac unrhyw eiriadur hanesyddol o iaith fyw fod yn hollgynhwysfawr. Rhybuddiodd rhai pobl na ddylid ceisio gwneud gormod. Er enghraifft, soniwyd am yr angen am ffynhonnell ddibynadwy o wybodaeth am enwau Cymraeg ac enwau lleoedd Cymraeg (yng Nghymru a thu hwnt), ond cytunwyd nad Geiriadur Prifysgol Cymru oedd y lle ar gyfer hynny, ond gwaith (neu weithiau) pwrpasol. Mae staff y Geiriadur yn ddiolchgar iawn i bawb a fynychodd y cyfarfod ac i'r bobl hynny a anfonodd syniadau cyn y cyfarfod. Os hoffech gynnig sylwadau pellach, byddwn yn falch iawn o'u derbyn.
Bydd angen instalio Acrobat Reader drwy glicio ar y ddolen gyswllt uchod oni bai bod Acrobat Reader ar eich system yn barod. |
|
|
|
|
|||
![]() |
|
|||