Cod y Modiwl CF30220  
Teitl y Modiwl TRAETHAWD ESTYNEDIG  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul O'Leary  
Semester Semester 2  
Elfennau Anghymharus MW30220  
Manylion y cyrsiau Tiwtorial   6 Awr dosbarthiadau tiwtorial rheolaidd, i'w trefnu gan fyfyrwyr unigol  
Dulliau Asesu Traethawd hir   1 draethawd estynedig o 8,000 -10,000 o eiriau   100%  

Disgrifiad o'r modiwl
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i baratoi traethawd estynedig a fydd yn rhoi prawf o allu cyfuno mwy nag un elfen / agwedd a astudiwyd yn Rhan 2. Rhaid cytuno ar y testun gyda chyd-gysylltydd y modiwl. Yn ogystal, mae cyfle i ymgynghori a chyd-gysylltydd y modiwl wrth fynd ati i ymchwilio ac ysgrifennu'r traethawd.

Bydd y myfyrwyr yn dod yn ymwybodol o ffynonellau yn ymwneud ag astudio hanes, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru. Bydd y cwrs hefyd yn hogi eu sgiliau ymchwil cyffredinol a'u hyrwyddo i ddefnyddio'u gwybodaeth mewn cyd-destun academaidd.

Canlyniadau dysgu
Bydd myfyrwyr yn meddu ar:

- gorff o wybodaeth arbennigol ym maes astudiaeth yn perthyn i'r Gymru Fodern, a ddewisir ar ol ymgynghori gyda chyfarwyddwr.
- ddealltwriaeth o amrywiaeth o ddehongliadau aml-ddisgyblaethol ym maes yr astudiaeth.
- y gallu i lunio cynllun ymchwil.
- y gallu i hel ac ystyried darnau priodol o dystiolaeth.
- y gallu i ddarllen, dadansoddi a myfyfrio'n feirniadol ar ffynonellau gwreiddiol perthnasol.
- y gallu i ddatblygu a chynnal dadleuon cydlynol.
- y gallu i weithio'n annibynnol.