Cod y Modiwl CY10110  
Teitl y Modiwl Y TRADDODIAD LLENYDDOL (IAITH GYNTAF)  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Bleddyn Huws  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Y Athro John Rowlands  
Rhagofynion Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10210, CY10310, CY10410  
Elfennau Anghymharus CY10510, CY10610, CY10710, CY10810, CY12220  
Manylion y cyrsiau Darlith   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   70%  
  Traethawd   2,000 o eiriau   30%  

Disgrifiad cryno
Arolwg beirniadol o hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r Oesoedd Canol hyd at Ddaniel Owen. Trafodir gweithiau unigol, gwahanol fathau o lenyddiaeth, prif syniadau llenyddol y cyfnodau dan sylw, a pherthynas llenyddiaeth Gymraeg â llenyddiaethau eraill a ddylanwadodd arni o dro i dro.