Cod y Modiwl | CY10410 | ||
Teitl y Modiwl | SEMINARAU IAITH A LLEN (IAITH GYNTAF) | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Bleddyn Huws | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Mihangel Morgan, Ms Felicity Roberts | ||
Rhagofynion | Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid) | ||
Cyd-Ofynion | I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10110, CY10210, CY10310 | ||
Elfennau Anghymharus | CY10510, CY10610,CY10710, CY10810, CY12220 | ||
Manylion y cyrsiau | Seminar | 18 Awr | |
Dulliau Asesu | Arholiad | 1.5 Awr | 60% |
Aseiniad | Iaith a Llen | 40% |
Disgrifiad cryno
Seminar iaith a seminar llên bob yn ail wythnos. Y mae pwyslais y seminarau iaith ar ysgrifennu yn raenus a chywir. Yn y seminarau llenyddol ysgogir trafodaethau ar wahanol ffurfiau llenyddol (e.e. y stori fer, y nofel, y delyneg, yr awdl, vers libre).