Cod y Modiwl CY12220  
Teitl y Modiwl CYMRU: IAITH A DIWYLLIANT (AIL IAITH)  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Ian Hughes  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Huw Edwards, Ms Felicity Roberts  
Rhagofynion Cymraeg (Ail Iaith) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid)  
Cyd-Ofynion CY10510 I'r rhai a fyn ddilyn cwrs gradd yn y Gymraeg: CY10510, CY10610, CY10710, CY10810  
Elfennau Anghymharus CY10110 , CY10210 , CY10310 , CY10410  
Manylion y cyrsiau Darlith   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr    
  Traethawd   Traethawd 2,000 o eiriau    

Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn gwella safon Cymraeg myfyrwyr ail iaith trwy ganolbwyntio ar batrymau iaith bob dydd a'u hymarfer ac, ar yr un pryd, yn darparu gwybodaeth gefndirol iddynt am lenyddiaeth Gymraeg ac am sefydliadau sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg a'i diwylliant. Edrychir ar bynciau megis y diwydiant llyfrau, y cyfryngau a'r celfyddydau yng Nghymru, ar sefydliadau megis yr Eisteddford a'r Llyfrgell Genedlaethol, ac ar lenyddiaeth gyfoes (gan gynnwys llenyddiaeth boblogaidd).