Cod y Modiwl | CY12420 | ||
Teitl y Modiwl | CYFRYNGAU DIWYLLIANT | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Y Athro Gruffydd Williams | ||
Semester | Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester) | ||
Rhagofynion | Cymraeg (Iaith Gyntaf) Safon Uwch (fel arfer, ond nid o raid) | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 20 Awr | |
Seminarau / Tiwtorialau | |||
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr | 70% |
Traethawd | (c.3,000 o eiriau) | 30% |
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn bwrw golwg ar y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r diwylliant Cymraeg drwy'r oesoedd: edrychir ar y traddodiad llafar (fel cyfrwng i drosglwyddo barddoniaeth a chyfarwyddyd), ar ymddangosiad y llyfr print a datblygiad cyhoeddi yn y Gymraeg, ar y faled, ar ymddangosiad papurau newydd a chylchgronau yn y ganrif ddiwethaf, ac ar ddatblygiad y cyfryngau modern (recordiau sain, radio, ffilm a theledu a chyfryngau electronig diweddar).
Canlyniadau dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl dylai myfyrwyr fod yn ymwybodol o ddatblygiad hanesyddol y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo'r diwylliant Cymraeg drwy'r oesoedd. Byddant yn gyfarwydd ag agweddau a fyddai fel arall yn ddieithr iddynt (e.e. y traddodiad llafar, arysgrifau, llawysgrifau.) Byddant yn gallu arddangos gwybodaeth o'r amodau materol a bennodd i raddau ddatblygiad ac ansawdd y diwylliant a fynegwyd drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.