Cod y Modiwl CY12510  
Teitl y Modiwl CYMRAEG LLYFR A CHYMRAEG LLAFAR I  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhisiart John Hincks  
Semester Semester 1  
Rhagofynion CY12410  
Elfennau Anghymharus CY20120  
Manylion y cyrsiau Darlith   14 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   80%  
  Gwaith ymarferol   Dulliau Asesu (noder hyd yr arholiad a'r gwaith cwrs angenrheidiol): Ymarferion - 2 set   20%  

Disgrifiad cryno
Parhad o'r cyflwyniad i fedrau sylfaenol i'r sawl a fyn ysgrifennu Cymraeg graenus. Canolbwyntir ar gonfensiynau sillafu'r iaith, ffurfiau'r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau.

Canlyniadau dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl dylai fod ganddynt afael gryfach ar Gymraeg llenyddol a dylent fod yn ymwybodol o'r prif wahaniaethau rhyngddo a Chymraeg llafar. Dylent fod wedi meistroli rheolau sillafu, treiglo a chystrawennol ac yn sicr o'r prif ganllawiau sydd o help i'r sawl sy'n ysgrifennu Cymraeg safonol heddiw.