Cod y Modiwl CY20120  
Teitl y Modiwl GLOYWI IAITH  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro Gruffydd Williams  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Huw Edwards, Dr Marged Haycock, Dr Rhisiart John Hincks  
Rhagofynion CY10110 + CY10210 + CY10310 + CT10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810, Cymraeg Level 1 (cyfartaledd o 40% y 4 modiwl) ac o leiaf 50% yn y modiwl iaith yn achos myfyrwyr ail iaith  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   45%  
  Traethawd     45%  
  Adroddiad sector gr p     10%  

Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grŵpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. Yn ogystal a thrafod cynhyrchion yr wythnos flaenorol, bydd elfen o hyfforddiant ieithyddol a fydd yn annibynnol ar hynny yn wedd ar bob dosbarth hefyd. Bydd prif bwyslais y dosbarthiadau ar yr iaith ysgrifenedig, ond rhoddir peth sylw hefyd i feithrin ymwybyddiaeth o iaith raenus fel paratoad ar gyfer y Prawf Llafar a fydd yn rhan o asesiad y modiwl.
Bydd y modiwl hwm yn orfodol i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl a Chyfun Cymraeg. Bydd myfyrwyr Iaith Gyntaf yn dilyn y modiwl ym mlwyddyn 2, a myfyrwyr ail Iaith yn ei ddilyn ym mlwyddyn 3.