Cod y Modiwl CY30520  
Teitl y Modiwl BARDDONIAETH YR UGEINFED GANRIF  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro John Rowlands  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlith   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   75%  
  Traethawd   3,000 o eiriau   25%  

Disgrifiad cryno
Astudiaeth o brif fannau barddoniaeth y ganrif hon. Rhoddir sylw i bynciau megis y dadeni rhamantaidd ar ddechrau'r ganrif, y tyndra rhwng rhamantiaeth a moderniaeth o'r ugeiniau ymlaen, barddoniaeth ymrwymedig (yn wleidydddol a chrefyddol), yr ail don o foderniaeth yn y pumdegau a'r chwedegau, y dadeni cynganeddol a'r adwaith yn ei erbyn, a thwf barddoniaeth answyddogol. Ceisir gosod y farddoniaeth yn ei chyd-destun ehangach ( yn gymdeithasol, gwleidyddol a syniadol).