Cod y Modiwl CY31420  
Teitl y Modiwl RHYDDIAITH A DRAMA 1900-2000  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro John Rowlands  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gyda o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlith   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   75%  
  Traethawd   3,000 o eiriau   25%  

Disgrifiad cryno
Yn maes rhyddiaith canolbwyntir yn bennaf ar y nofel, gan astudio gweithiau allweddol gan awduron megis Saunders Lewis, Tegla, Kate Roberts, T Rowland Hughes ac Iswlyn Ffowc Elis. Gwyntyllir pynciau megis y nofel ddiwydiannol a'r nofel ol-fodernaidd. Bydd yr astudiaeth o'r ddrama yn rhoi lle blaenllaw i Saunders Lewis a John Gwilym Jones, ond trafodir yn ogystal weithiau mwy blaengar ac arbrofol y chwarter canrif diwethaf.