Cod y Modiwl CY31820  
Teitl y Modiwl BEIRNIADU LLENYDDIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro John Rowlands  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd 40% rhwng y modiwl) gyda o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlith   22 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   75%  
  Traethawd   3,000 o eiriau   25%  

Disgrifiad cryno
Amcan y cwrs yw ystyried y gwahanol ffyrdd o ddarllen llenyddiaeth. Bwrir golwg ar brif ffrydiau beirniadaeth yn Ewrop o Blaton hyd y cyfnod modern. Manylir ar brif fudiadau'r ganrif hon, megis Ffurfiolaeth, Y Feirniadaeth Newydd, Strwythuraeth, Ol-strwythuraeth, Dadadeiladaeth, Marcsiaeth, Ffeministiaeth ayyb. Trafodir hefyd ddull rhai beirniaid Cymraeg o ddarllen llenyddiaeth, gan gynnwys J Morris-Jones, W J Gruffydd, Saunders Lewis, J Gwilym Jones a Bobi Jones.