Cod y Modiwl | CY33820 | ||
Teitl y Modiwl | LLENYDDIAETH Y DIWYGIAD METHODISTAIDD | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Lynne Williams | ||
Semester | Semester 1 | ||
Staff Eraill sy'n Cyfrannu | Dr Lynne Williams | ||
Rhagofynion | Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 22 Awr | |
Seminar | Gall rhai dosbarthiadau fod ar ffurf seminar/dosbarth testunol, gan ddibynnu ar y niferoedd. | ||
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr | 75% |
Traethawd | 3,000 o eiriau | 25% |
Disgrifiad cryno
Astudio natur ac ansawdd y llenyddiaeth a luniwyd gan hyrwyddwyr y Diwygiad Methodistaidd, ac ystyried y llenyddiaeth honno yng ngoleuni cyffroadau'r Diwygiad. Canolbwyntir yn arbennig ar waith William Williams, Pantycelyn, gan drafod ei weithiau rhyddiaith a'i farddoniaeth yn ogystal â'i emynau, ac ystyrir swyddogaeth a phwysigrwydd y llenyddiaeth honno yng nghyd-destun ehangach llenyddiaeth a diwylliant y ddeunawfed ganrif.