Cod y Modiwl CY34320  
Teitl y Modiwl DIRGELION IAITH  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Felicity Roberts  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlith   11 Awr  
  Seminar   11 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   75%  
  Traethawd   2,000 o eiriau   15%  
  Cyflwyniad seminar     10%  

Disgrifiad cryno
Modiwl sylfaenol ar iaith. Bydd darlithoedd ar ieithyddiaeth gyffredinol yn trafod, e.e. yr hyn ydyw ffoneteg, ffonoleg, morffoleg,a semanteg. Bydd rhai darlithoedd ar ieitheg gymharol yn sôn am achau'r Gymraeg o Indo-Ewropeg. Bydd hefyd ddarlithoedd ar agweddau ar ieithyddiaeth gymdeithasegol, megis yr amrywiaethau sy'n digwydd yn ôl rhyw, dosbarth sosioeconomaidd, amgylchiadau cymdeithasol a daearyddol.