Cod y Modiwl CY34820  
Teitl y Modiwl RHYDDIAITH WYDDONOL A MEDDYGOL CYMRAEG CANOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Morfudd Owen  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlith   11 Awr  
  Seminar   11 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   75%  
  Traethawd   3,000 o eiriau   25%  

Disgrifiad cryno
Astudir detholiad o destunau gwyddonol a meddygol Cymraeg o'r oesoedd canol, gan roi sylw i'w cynnwys, eu hiaith, eu perthynas â gweithiau tebyg mewn ieithoedd eraill, a chyd-testun diwylliannol a chymdeithasol eu cyfansoddiad.

Canlyniadau dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai'r myfyrwyr ddeall prif gysyniadau gwyddonol yr Oesoedd Canol megis theori'r hiwmorau yn ogystal â natur y testunau gwyddonol a meddygol Cymraeg.