Cod y Modiwl CY35020  
Teitl y Modiwl Y GYMRAEG: IAITH DYSG AC IAITH CYMDEITHAS  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhisiart John Hincks  
Semester Semester 2  
Rhagofynion Cymraeg Lefel 1 (cyfartaledd o 40% rhwng y 4 modiwl) gydag o leiaf 50% yn y modiwlau iaith yn achos myfyrwyr ail iaith, CY10110 + CY10210 + CY10310 + CY10410 NEU CY10510 + CY10610 + CY10710 + CY10810  
Manylion y cyrsiau Darlith   20 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   55%  
  Traethawd   1,500 o eiriau i'w gyflwyno hanner ffordd drwy'r tymor dysgu   20%  
  Gwaith prosiect   1,800 o eiriau i'w gyflwyno erbyn diwedd y tymor dysgu   25%  

Disgrifiad cryno
Golwg ar weithgarwch gwŷr y Dadeni a'u syniadau ynglŷn ag ysgrifennu Cymraeg, gwaith E Lhuyd, geiriadurwyr a gramadegwyr y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, syniadau am ysgrifennu'r iaith yn y 20fed ganrif, twf dwyieithedd, erydiad ieithyddol, parthau'r iaith a'i dosbarthiad daearyddol.

Canlyniadau dysgu
Ar gwblhau'r modiwl bydd myfyrwyr deallus yn medru trafod hanes diweddar yr iaith a deall paham y caiff ei siarad a'i hysgrifennu fel y'i siaredir ac fel y'i hysgrifennir.