Cod y Modiwl DA10110  
Teitl y Modiwl POBL, LLE A CHENEDL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys Jones  
Semester Semester 1  
Rhagofynion Daearyddiaeth Safon Uwch/Safon Uwch Atodol  
Elfennau Anghymharus GG10110  
Manylion y cyrsiau Darlith   20 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   80%  
  Asesiad ailsefyll   Ail-sefyll: Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad a fydd yn cyfateb i holl waith y modiwl (100%)   100%  

Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i gynnig cwrs rhagarweiniol mewn daearyddiaeth ddynol sydd yn archwilio pwysigrwydd agosatrwydd at le ar ddwy raddfa. Yn gyntaf, o safbwynt unigolyn sydd yn adweithio i'r byd mewn modd atblygol, ac yn ail, o safbwynt sydd yn clymu unigolion i sefydliadau cymdeithasol sydd yn eu tro yn dylanwadu ar gyfleoedd personol. Bydd y themau hyn yn cael eu trafod ar raddfeydd gwahanol a chydag amrywiaeth o esiamplau penodol.