Cod y Modiwl DA10610  
Teitl y Modiwl AMGYLCHEDDAU WYNEB Y DDAEAR  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Aled Rowlands  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus GG10610  
Manylion y cyrsiau Darlith   20 Awr  
Dulliau Asesu Arholiad   Arholiad 2 awr: traethodau   80%  
  Prosiect gr p   2 Awr Cywaith (grwp) sydd yn cynnwys cyflwyniad llafar   20%  

Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn rhoi cyflwyniad gwerthfawr i'r prosesau dynamig sy'n gweithredu ar wyneb y ddaear. Trwy'r cwrs pwysleisir yn angen i gyfuno dealltwriaeth o brosesau cyfoes gyda dealltwriaeth o dirweddau cyfoes a hynafol. Cyflwynir a dadansoddir amryw o amgylcheddau dros wyneb y ddaear, sylwir a'r elfennau tirwedd, y prosesau sydd yn gweithredu a'r problemau a wynebir wrth geisio eu rheoli.

Bydd y darlithoedd yn dilyn y drefn: perspebtic byd-eang, amgylcheddau afonol, amgylcheddau arfordirol, amgylcheddau mynyddig, amgylcheddau rhewlifol, cyflwyniad llafar (grwp), amgylcheddau cras, amgylcheddau carstig.