Cod y Modiwl DA11910  
Teitl y Modiwl MODIWL TIWTORIAL DAEARYDDIAETH  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys Jones  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion Fel arfer, Daearyddiaeth Safon Uwch a/neu eich derbyn am le ar raglen Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun  
Cyd-Ofynion 30 credydd o leiaf o blith modiwlau eraill GG/DA  
Dulliau Asesu Gwaith cwrs     100%  

Disgrifiad cryno
Mae craidd Daearyddiaeth yn cynnwys elfen o ddosbarthiadau tiwtorial a asesir, dan arweiniad tiwtoriaid academaidd, mewn grwpiau bychain o ryw bum 'myfyriwr/myfyrwrig'. Pwrpas y modiwl hwn yw datblygu sgiliau astudio personol, ystyried amcanion gyrfa, a chynnal trafodaeth academaidd yn seiliedig ar faes llafur ddifiniedig. Bydd gwaith academaidd y cwrs yn astudio'r themau 'byd-eang a chyfannol' sy'n codi o'r pynciau a drafodir ym modiwlau blwyddyn gyntaf Daearyddiaeth. Trwy gyfrwng hyn fe ddatblygir amrediad o fedrau astudio academaidd.