Cod y Modiwl DA20110  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETH BOBLOGAETHOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Richard Morgan  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus GG26910  
Manylion y cyrsiau Darlith   10 o ddarlithiau (2 awr yr un ar yr amserlen)  
  Seminarau / Tiwtorialau   2 seminar (2 awr yr un ar yr amserlen) yn seiliedig ar draethodau a darllen penodol.  
Dulliau Asesu Arholiad   1.5 Awr 1 Papur arholiad.   50%  
  Traethawd   Dau draethawd. Cyflwynir y traethodau erbyn diwedd wythnosau 6 a 11. Gweithredir gostyngiad o 5% am bob diwrnod y mae'r traethodau yn hwyr yn cyrraedd. Os digwydd i fyfyriwr gorfod ail-esitedd yr arholiad bydd y marciau a enillwyd am y traethodau yn sefyll.   50%  

Amlinelliad o Fodiwl (Themau darlithoed)
Prif thema'r modiwl yw gwahanol agweddau o'r berthynas rhwng poblogaeth ac adnoddau. Gellid crynhoi cynnwys y modiwl o dan dri phen:

1. (4 sesiwn) newidiadau poblogaethol fel sylfaen i'r cwrs, yn cynnwys yn bennaf newidiadau ym mhatrymau geni, marw a mudo

2. (3 sesiwn) astudiaethau o'r berthynas rhwng poblogaeth ac adnoddau yn ddamcaniaethol ac yn nhermau patrymau o newyn ac o newidiadau amaethyddol.

3. (3 sesiwn) enghreifftiau hanesyddol o'r berthynas rhwng newidiadau poblogaethol ac adnoddau gan gynnwys y ffrwydrad poblogaethol cyntaf yn Ewrop, mudo rhyngwladol fel un ymateb i'r ffrwydrad hwnnw, ynghyd a hanes demograffaidd unigryw yr Iwerddon.

Nod y modiwl
Ehangu gwybodaeth am batrymau cyfoes poblogaethol y byd a defnyddio'r berthynas rhwng poblogaeth ac adnoddau fel un fframwaith i wella ein dealltwriaeth o'r newidiadau poblogaethol.

Amcanion y modiwl / canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y modiwl y disgwyl yw y bydd myfyrwyr yn medru

(i) defnyddio dulliau demograffig a gofodol i ddadansoddi patrymau poblogaethol.

(ii) defnyddio ystadegau cyhoeddus yn y meysydd poblogaethol.

(iii) cyfuno agwedd hanesyddol y demograffydd gyda agwedd gofodol y daearyddwr.

(iv) trafod lle a phwysigrwydd poblogaeth yng nghyd-destun datblygiad, newyn a dosraniad adnoddau.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
Coleman, D. and Schofield, R. (eds) (1986) The State of Population Theory. Oxford: Blackwell..
Grigg, D.B.. (1993) The World Food Problem. 2ail arg. Oxford: Basil Blackwell.
Livi-Bacci, M.. (1992) A Consise History of World Population. Oxford: Basil Blackwell.
Lutz, W. (ed). (1994) The Future Population of the World. Earthscan Publications.