Cod y Modiwl DA20410  
Teitl y Modiwl DAEARYDDIAETH WLEIDYDDOL FYD-EANG  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Rhys Jones  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr 9 x 2 awr  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   80%  
  Traethawd   Traethawd i'w gyflwyno erbyn diwedd wythnos 8.   20%  
  Asesiad ailsefyll   Ail-sefyll: Os methir y modiwl bydd cyfle i ailsefyll yr traethawd (20%) a'r arholiad (80%). Rhaid i'r traethawd ymwneud a phwnc gwahanol i'r un a gyflwynwyd y tro cyntaf. Os na chwblhawyd y traethawd, a hynny heb reswm digonol, ni chaniateir ail-gyflwyno'r traethawd.    

Amlinelliad o Fodiwl (Themau darlithoed)
Sefydliadau a phrosesau cydwladol:

Darlith 1: Arolwg bras o sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol y byd.

Darlithoedd 2-4: Prosesau a sefydliadau byd-eang. Y drefn fydol newydd a chwymp Imperialaeth. Rol y Cenhedloedd Unedig yn y byd modern. Y Rhyfel Oer a'r "heddwch" presennol.

Darlithoedd 5-6: Yr Ewrop Newydd - manteision economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol?

Sefydliadau a phrosesau cenedlaethol:
Darlithoedd 7-8: Y Wladwriaeth: archwilio themau amrywiol gan gynnwys ffurfiant gwladwriaethau, a'r gwahanol fathau o wladwriaethau sydd wedi bodoli.

Darlithoedd 9-10: Cenedlaetholdeb a diwylliannau lleiafrifol.

Darlithoedd 11-12: Anghydfodau ffiniau hanesyddol a modern.

Sefydliadau a phrosesau lleol:
Darlithoedd 13-14 : Daearyddiaeth etholiadol.

Darlithoedd 15-17: Y wladwriaeth leol a dinasoedd byd-eang.

Darlith 18: Casgliad a thrafodaeth.

Nod y modiwl
Bydd y modiwl hwn yn darparu ymwybyddiaeth eang i'r myfyrwyr o'r amryw themau sydd yn perthyn i bwnc daearyddiaeth wleidyddol, a hynny ar bob graddfa daearyddol. Bydd y modiwl yn ysgogi'r myfyrwyr i astudio digwyddiadau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol, a'u canfyddu fel enghreifftiau o brosesau gwleidyddol a daeryddol ehangach mwy amwys.

Amcanion y modiwl / canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn gallu (1) cyfathrebu yn helaeth am y gwahanol ddadansoddiadau a chysyniadau sydd yn ceisio esbonio daearyddiaeth wleidyddol y byd; (2) dangos dealltwriaeth eang o'r ffordd y mae realiti gwleidyddol y byd yn cael ei guddio oddi wrth brofiad unigolion gan y wladwriaethol genedlaethol; (3) dod a themau'r cwrs a'r darllen craidd at ei gilydd; (4) dadansoddi adroddiadau ac erthyglau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol a'u clymu i mewn i brif themau'r cwrs.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
Taylor, P.J.. (1993) Political Geography: World-Economy, Nation-State and Locality. Longman
Short, J.R.. (1993) An Introduction to Political Geography. Routledge
Hudson, R., a Williams, A.M.. (1989) Divided Britain. Belhaven