Cod y Modiwl DA30320  
Teitl y Modiwl IWERDDON  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Richard Morgan  
Semester Semester 2  
Manylion y cyrsiau Darlith   Rhif a pharhad y darlithiau: 8 o ddarlithiau (2 awr yr un ar yr amserlen)  
  Seminarau / Tiwtorialau   Rhif a pharhad y seminarau/tiwtorialau: 3 seminar (2 awr yr un ar yr amserlen) yn seiliedig ar draethodau, darllen penodol a rhaglenni fideo. Cyfanswm o 20 o oriau cyswllt.  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Papur arholiad 2 awr.   50%  
  Traethawd   Dau draethawd. Cyflwynir y traethodau erbyn diwedd wythnosau 6 a 11. Os cyflwynir i traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhau'r holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad o'r holl elfennau.   50%  
  Asesiad ailsefyll   Ail-sefyll: Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) a'r traethodau wedi eu hasesu (40%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwyno'r gwaith bydd cyfle i gyflwyno'r elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farcia ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen o'r gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <35% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 35% yn y modiwl). Rhaid i'r traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol i'r rhai a gwblhawyd y tro cyntaf.    

Nod y modiwl
Hybu dealltwriaeth o ddatblygiad cyfoes yng ngyd-destun (i) y fframwaith Ewropeaidd a (ii) hanes gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y wlad.

Amlinelliad o Fodiwl (Themau darlithoed)
Gwneir ymgais yn y cwrs hwn i ddadansoddi y prosesau sydd ar waith yn ffurfio patrymau cymdeithasol ac economaidd cyfoes yng ngweriniaeth Iwerddon. Rhoddir pwyslais arbennig ar faterion cynllunio, a'u dylanwad ar yr ardaloedd gwledig gyda sylw penodol i orllewin y wlad ac i ardaloedd y Gaeltacht. Dyma fydd y pynciau i'w trafod:

1. Rhagarweiniad: themau mewn daearyddiaeth hanesyddol a diwyllianol.

2. Cynllunio cenedlaethol: pwyslais arbennig ar amddifadedd, poblogaeth a dadansoddiadau strwythurol.

3. Y dimensiwn rhanbarthol: gwahaniaethau rhanbarthol, cynllunio rhanbarthol, canolfannau twf, Dulyn.

4. Cynllunio dros yr ardaloedd gwledig, gyda phwyslais ar yr elfen gydweithredol

5. Cynllunio yn ardaloedd y Gaeltacht, gyda phwyslais arbennig ar bwysigrwydd yr iaith Wyddeleg o fewn y fframwaith cynllunio.

6. Twristiaeth mewn ardaloedd gwledig.

7. Yr Iwerddon yn ei chysylltiadau Ewropeaidd: dylanwad polisiau yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud yn benodol ag amaethyddiaeth a datblygiad rhanbarthol.

8/9. Syniadau am ddatblygiad yn yr Iwerddon.

Amcanion y modiwl / canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y modiwl y disgwyl yw y bydd myfyrwyr yn medru

(i) deall rhywfaint am ddatblygiad yr Iwerddon yng nghyd-destun ei hanes a'i chysylltiadau Ewropeaidd.

(ii) gwella eu dirnadaeth o gynllunio o fewn ardaloedd gwledig.

(iii) ehangu eu profiad o'r byd Celtaidd.

(iv) datblygu sgiliau dadansoddi o wahanol mathau gan gynnwys ffynonellau llenyddol, gwybodaeth ystadegol ac astudiaethau academaidd.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
Carter, R.W.G. and Parker, A.J. (eds). (1989) Ireland: Contemporary Perspectives on a land and its people. London: Routledge
Foster, R.F.. (1988) Modern Ireland 1600 - 1972. London: Penguin.
Graham, B.J. and Proudfoot, L.J. (eds). (1993) An Historical Geography of Ireland. Academic Press.
Hussey, G.. (1995) Ireland Today. London: Penguin.