Cod y Modiwl | DA35020 | ||
Teitl y Modiwl | DAEAR Y WLAD,CENEDLAETHOLDEB, A DIWILLIANNAU LLEIAFRIFOL | ||
Blwyddyn Academaidd | 2000/2001 | ||
Cyd-gysylltydd y Modiwl | Dr Rhys Jones | ||
Semester | Semester 1 | ||
Rhagofynion | |||
Elfennau Anghymharus | GG35020 | ||
Manylion y cyrsiau | Darlith | 18 (cyfuniad o ddarlith a seminar) | |
Dulliau Asesu | Arholiad | 2 Awr Arholiad dwy awr | 50% |
Traethawd | Os cyflwynir i traethodau yn hwyr bydd y marc yn gostwng 5% bob dydd. Y mae angen cwblhau'r holl elfennau er mwyn pasio'r modiwl a bydd y marc terfynol yn gyfuniad o'r holl elfennau. Dau draethawd i'w cyflwyno yn wythnosau 6 a 11. | 40% | |
Cyflwyniad seminar | 10% | ||
Asesiad ailsefyll | Os methir y modiwl, bydd cyfle i ail-sefyll arholiad (50%) a'r traethodau wedi eu hasesu (40%). Os oedd rhewsm dilys (meddygol) dros beidio a chyflwyno'r gwaith bydd cyfle i gyflwyno'r elfen(nau) coll am yr ystod cyfan o farcia ar y dyddiad penodol yng nghyfnod yr Arholiadau Atodol. Os methwyd y modiwl oherwydd marciau isel neu am na chyflwynwyd elfen o'r gwaith, bydd yn rhaid ailsefyll yr holl elfennau (os cafwyd <35% ynddynt i gyd), neu ailgyflwyno neu ailsefyll yr elfen a fethwyd (arholiad neu aseiniad er mwyn cael marc uchafswm o 35% yn y modiwl). Rhaid i'r traethodau a ailgyflwynwyd ymwneud a phynciau gwahanol i'r rhai a gwblhawyd y tro cyntaf. |
Amlinelliad o Fodiwl (Themau darlithoed)
Cyflwyniad
Sesiwn 1: Cyflwyniad i'r themau sydd yn cael eu harchwilio.
Y wladwriaeth
Sesiwn 2: Diffiniadau a ffurfiant y wladwriaeth gynnar.
Sesiynau 3-6: Y wladwriaeth fodern. Archwilir diffiniadau gwahanol o'r wladwriaeth fodern, yn ogystal a nodi enghreifftiau penodol o natur yr endid hwn.
Cenedlaetholdeb
Sesiynau 7-8: Cysyniadau cenedlaetholdeb hanesyddol a modern.
Sesiynau 9-11: Enghreifftiau modern o fuddiannau a phroblemau cenedlaetholdeb
Diwylliannau lleiafrifol
Sesiwn 12: Y cysyniad o ddiwylliant lleiafrifol.
Sesiynau 13-17: Enghreifftiau hanesyddol a modern penodol yn archwilio natur diwylliannau lleiafrifol.
Sesiwn 18: Casgliad a thrafodaeth.
Nod y modiwl
Bydd y modiwl hwn yn darparu ymwybyddiaeth eang i'r myfyrwyr o gysyniadau sydd yn ymwneud a natur y wladwriaeth, cenedlaetholdeb a diwylliannau lleiafrifol. Bydd y modiwl hefyd yn eu galluogi i werthfawrogi patrymau a phrosesau rhanbarthol a chenedlaethol yn y maes hwn sydd yn digwydd ledled y byd. Yn ogystal a hyn, bydd y modiwl yn cynyddu gallu dadansoddol, cymharol, beirniadol a chreadigol y myfyrwyr.
Amcanion y modiwl / canlyniadau dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn medru (1) cyfathrebu yn helaeth am y gwahanol ddadansoddiadau a chysyniadau sydd yn ceisio esbonio natur y wladwriaeth a chenedlaetholdeb; (2) dangos eu dealltwriaeth o'r rhyng-berthynas agos rhwng y wladwriaeth fodern a chenedlaetholdeb; (3) mynegu ymwybyddiaeth eang am natur diwylliannau lleiafrifol ledled y byd, ynghyd a gwerthfawrogi y gwahaniaethau a'r tebygrwydd sydd rhyngddynt; (4) dod a themau'r cwrs a'r darllen craidd at ei gilydd; (5) dadansoddi adroddiadau ac erthyglau yn y cyfryngau mewn modd beirniadol, a'u clymu i mewn i brif themau y cwrs.
Rhestr Ddarllen
Erthygl
Anderson, J.. (1996)
'The shifting stage of politics: new medieval and postmodern territorialites'. Society and Space 14, 133-53
Taylor, P.J.. (1995)
'Beyond containers: internationality, interstateness, inter-territoriality'. Progress in Human Geography 19(1), 1-15.
Hall, S.. (1995)
'Cultural identity in question' in S. Hall et al. (eds.), Modenity and its Futures.. Polity Press, Cambridge