Cod y Modiwl DA38110  
Teitl y Modiwl DOSBARTH TIWTORIAL DAEARYDDIAETH LEFEL 3  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Paul Brewer  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Rhys Jones  
Cyd-Ofynion  
Elfennau Anghymharus GG38110  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 (Cyfarfodydd bob yn ail wythnos yn ystod y ddau semester).  
Dulliau Asesu Asesiad parhaus   Dulliau asesu: 100% Asesu cyson. (60% gwaith academaidd y cwrs, 20% sgiliau astudio, 20% safon gyffredinol y gwaith). Bydd gofyn i fyfyrwyr gyflwyno pob darn o waith a ddynodwyd er mwyn llwyddo yn y modiwl. Dylai myfyrwyr nodi ei bod yn orfodol mynychu dosbarthiadau tiwtorial, yn ogysgal a chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau a osodwyd gan y tiwtor. Dylid cytuno ar absenoldeb ymlaen llaw gyda'r tiwtor, a rhoi gwybod ar unwaith iddo/iddi am salwch. Bydd absenoldeb heb eglurhad yn golygu camae disgylbu. Bydd cosb am gyflwyno gwaith yn hwyr yn unol a'r manylion yn y Llawlyfr Daeryddiaeth os yw aseiniadau wedi eu cyflwyno'n hwyr heb reswm da a heb gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y tiwtor.   100%  
  Asesiad ailsefyll   Bydd myfyrwyr sy'n methu'r modiwl yn cael ei ailsefyll fel arfer, sy'n golygu ailgyflwyno aseiniadau a fethwyd a chyflwyno aseiniadau na chyflwynwyd. Byd marciau am aseiniadau a gafodd 35% neu ragor mewn asesiad, yn cael eu trosglwyddo. Os nad oes amgylchiadau esgusodol (e.e. salwch), bydd y marc uchaf y gellir ei gael am aseiniad a gyflwynir wrth ailsefyll y modiwl, yn 35%.    

Amlinelliad o'r modiwl
Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 3 yn orfodol i fyfyrwyr y 3edd flwyddyn sy'n astudio cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Gellir ei ddilyn gan fyfyrwyr eraill yn unig drwy drefniant arbennig a Chydgysylltydd y Modiwl. Mae'n cynnig sylfaen ar gyfer cysylltiad arolygol agos a rheolaidd a myfyrwyr trwy gydol y flwyddyn.

Tri nod penodol sydd iddo. Yn gyntaf, trwy fod yn gyfrwng cysylltiad gweithio agos, bydd yn trafod y problemau cyffredinol, yn rhai academaidd a bugeiliol, sy'n wynebu myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, y bwriad yw bod gan bob modiwl tiwtorial mewn Daearyddiaeth ei faes llafur academaidd annibynnol ei hun. Ar Lefel 3 bydd hwn yn canolbwyntio ar y canfyddiadau academaidd diweddaraf yn y pwnc, gan astudio agweddau daearyddol ar faterion a diwyddiadau cyfoes. Mae'n cynnig i fyfyrwyr y cyfle i gysylltu dadleuon a digwyddiadau cyfredol sy'n codi yn ystod y flwyddyn a'u cyd-destun daearyddol academaidd, a gwerthfawrogi a gwerthuso sylwedd ac arbenigrwydd eu pwnc. Yn olaf, bydd yn trafod maes llafur diffiniedig o sgiliau astudio, gan roi i'r myfyrwyr y gallu i ymdopi'n fwy effeithiol a galwadau astudio academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, a'u galluogi i fanteisio'n fwy cyflawn ar y posibliadau a gynigir yn ein rhaglen.

GWAITH CWRS ACADEMAIDD
Bydd gwaith cwrs academaidd Modiwl Tiwtorial Lefel 3 yn cynnwys astudiaeth o'r canfyddiadau academaidd diweddaraf yn y pwnc a gwerthfawrogiad o agweddau daearyddol ar faterion a digwyddiadau cyfoes, gan annog myfyrwyr i ystyried sut y gellir cysylltu materion a digwyddiadau sy'n codi yn ystod y flwyddyn a chyd-destun trafodaeth mewn daearyddiaeth gan gyfrannu i sylwedd ymchwilio daearyddol. Yn hyn o beth, bydd ei union gynnwys yn newid ac yn ymateb yn ol deinameg ysgolheictod daearyddiaeth. Datblygir y cynnwys academaidd hwn trwy gyfrwng tri darn o waith ysgrifenedig, a phob un ohonynt i'w ddefnyddio ar gyfer asesu. Bydd yr aseiniadau yn ffurfiannol ac yn grynodol, a dylai myfyrwyr ddisgwyl ymateb gan y tiwtor ar ol pob darn o waith ynghylch sut y gellid gwella cyflwyniadau dilynol.

SGILIAU TROSGLWYDDADWY/SGILIAU ASTUDIO

Datbylygir y sgiliau hyn trwy gyfrwng un aseiniad, a'r cynnwys i'w benderfynu gan y tiwtor.

Defnyddir safon gwaith myfyrwyr yn gyffredinol yn y modiwl tiwtorial, gan gynnwys trafodaeth a chyflwyniad llafar, i greu marc asesiad. Wrth gyrraedd y marc hwn, bydd staff yn ystyried hunan-asesiad y myfyrwyr eu hunain o'u gwaith.

Oherwydd hynny, mae marc y modiwl yn gymedr o 3 marc am waith academaidd y cwrs, 1 marc am sgiliau astudio, a 1 marc am safon gyffredinol y gwaith (yn rhannol seiliedig ar arolwg personol o'r flwyddyn gyda'r tiwtor), a phob un o'r rhannau yn cyfrannu 20% i'r asesiad.

Gweler yr adran berthnasol yn y Llawlyfr Daearyddiaeth am wybodaeth ar drefn cyflwyno a dychwelyd aseiniadau tiwtorial.