Cod y Modiwl DD23810  
Teitl y Modiwl DADANSODDI GOFOD  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Y Athro Mike Pearson  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Mr Thomas Owen  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Manylion y cyrsiau Darlith   9 Awr 9 x 2 awr  
Dulliau Asesu Gwaith prosiect   PROSIECT (3000)   50%  
  Gwaith ymarferol   ARHOLIAD YMARFEROL   50%  
  Gwaith ymarferol   .5 Awr   50%  

Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, byddwch yn astudio gwahanol ddulliau o drefnu gofod y theatr er mwyn dadansoddi'r berthynas rhwng y drefniadaeth ofodol a natur neu ystyr y digwyddiad theatraidd yn ei grynswth. Ar ddechrau'r cwrs, fe drafodir y cysyniad o ofod yn gyffredinol, gan nodi'r berthynas gynhenid rhwng ymwybyddiaeth yr unigolyn o ofod ac ymwybyddiaeth yr unigolyn o'i gorff/o'i chorff. Yna, yn ystod y sesiynau canlynol, fe astudir ymddygiad tyrfaoedd, gan nodi rhai o'r dulliau perfformio a ddatblygwyd mewn perthynas a'r ymddygiad hwnnw. Dangosir bod theatr yn yr ystyr gyfoes wedi'i datblygu yn raddol wrth ffurfioli'r berthynas rhwng y dyrfa a'r perfformiwr.

Ar ddiwedd y cwrs, fe fyddwch yn sefyll arholiad ymarferol le y gofynnir i chi gyflwyno prosiect ymarferol; ac fe gyflwynir nifer o sesiynau llai ffurfiol fel paratoad ar gyfer y prosiect hwn.

Rhestr Ddarllen
Erthygl
** Hanfodol
Pearson, Mike. (1997) Special Worlds, Secret Maps: A Poetics of Performance. Gwasg Prifysgol Cymru