Cod y Modiwl DD32820  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN ADDYSG  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Lisa Lewis  
Semester Semester 2  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 10 x 2 awr  
    Gwaith dyfeisio, ymarfer a theisio ysgolion (tua 120 awr)  
Dulliau Asesu Gwaith prosiect   Perfformiad a chyfraniad i'r prosiect   40%  
  Traethawd   2,500 o eiriau   40%  
  Gweithdai   Datblygiad yn y gweithdai   20%  

Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl hwn yw archwilio'r broses o ddysgu drwy gyfrwng y theatr. Bydd myfyrwyr yn gorfod gweithio fel rhan o dim cydweithredol gan gysylltu ag ysgolion, ymchwilio, dyfeisio, sgriptio a gwethredu fel actorion/athrawon. Yn ystod y modiwl astudir prosiectau Th-M-A gwahanol gwmniau ar gyfer Babannod, Cynradd ac Uwchradd drwy wylio deunydd clyweledol a'i drafod mewn perthynas a phecynnau dysgu neu aelodau o'r cwmniau perfformio. Rhaid i fyfyrwyr baratoi prosiect, yn cynnwys perfformiad, gweithdai a phecynnau gwaith ar gyfer ysgolion lleol. Rhan bwysig o'r cynwaith yw gwerthusio'r gwaith drachefn gydag ymateg yr ysgolion.