Cod y Modiwl DD33020  
Teitl y Modiwl YMARFER CYFARWYDDO NEU DDYLUNIO  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Mr Graham Laker  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Ms Lisa Lewis  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Cyd-Ofynion DD32920 DD32920 ac/neu DD33310  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   10 Awr 12 x 1 awr  
    Cyfarfodydd cynhyrchu ac ymarfer dwys ar gyfer prosiect ac ymweliad theatr  
Dulliau Asesu Gwaith prosiect   PROSIECT CYFARWYDDO AR GYFER Y PROSIECT CYFARWYDDO YN UNIG   70%  
  Traethawd   Traethawd 3,000 o eiriau AR GYFER Y PROSIECT CYFARWYDDO YN UNIG   30%  
  Gwaith prosiect   Prosiect Dylunio AR GYFER Y PROSIECT DYLUNIO YN UNIG   40%  
  Traethawd   TRAETHAWD (5,000 o eiriau) AR GYFER Y PROSIECT DYLUNIO YN UNIG   30%  
  Aseiniad   NODIADAU MANWL AR GYFER Y PROSIECT DYLUNIO YN UNIG   30%  

Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn ehangu ac yn datblygu ar y gwaith a wnaethpwyd yn Theori Cyfarwyddo a Cyflwyniad i Ddylunio, ac fe'i gyfyngir i fyfyrwyr a chanddynt ddiddordeb gwirioneddol mewn Cyfarwyddo neu Ddylunio. Rhaid i fyfyrwyr Cyfarwyddo baratoi cynhyrchiad 30 munud o hyd ar gyfer i berfformio'n gynhoeddus. Disgwylir i fyfyrwyr gadw nodiadau manwl o'r broses ymarfer a pharatoi a'u cyflwyno i'r arholwyr mewn viva. Dylai'r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.

Gall myfyrwyr sy'n dymuno Dylunio arbennigo drwy lunio cynllun manwl ar gyfer cynhyrchiad adrannol, ei baratoi a'i godi. Yn yr un modd rhaid i'r myfyrwyr hyn gyflwyno'u bwriadau artistig mewn cyflwyniad llafar (viva voce) a chadw dyddlyfr dylunio sydd yn olrhain y broses greu a'r penderfyniadau a wnaethpwyd. Dylai'r traethawd ddadansoddi a thrafod y broses gan bwyso a mesur y gwaith a wnaethpwyd yn wrthrychol.

Bydd y darpariaeth tiwtorial/seminar ar gyfer y modiwl hwn yn cymryd ffurf trafodaeth grwp ynghlych y dewis o destun ar gyfer y perfformiad, arddull perfformio a'r drefn ar gyfer ymarfer a chynhyrchu. Bydd sesiynau unigol gyda chyfarwyddwyr yn trafod eu gwaith wrth i hwnnw ddatblygu ac ymffurfio. Bydd tiwtoriaid y cwrs yn mynychu o leiaf 3 ymarfer a'r perfformiad ei hun. Ar adeg cwblhau'r prosiectau, cynhelir trafodaethau grwp er mwyn didoli a dadansoddi'r gwaith, ac fe gynigir cymorth tiwtorial i unigolion wrth iddyn ysgrifennu eu traethodau.