Cod y Modiwl DD33720  
Teitl y Modiwl AMGYLCHFYD Y CYNHYRCHIAD  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Lisa Lewis  
Semester Semester 1  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Y Athro Mike Pearson, Mr Graham Laker  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Cyd-Ofynion DD21520 a/neu DD23310  
Elfennau Anghymharus I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig  
Manylion y cyrsiau Darlith   10 Awr 11 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   2 Awr 3 x 1 awr  
Dulliau Asesu Traethawd   TRAETHAWD HIR (10,000)   100%  

Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn, a asesir drwy gyfrwng traethawd hir o 10,000 o eiriau, yn galluogi myfyrwyr Anrhydedd Sengl i fyfyrio ar, a dadansoddi eu profiad o'r cynllun ymarferol dwys a gafwyd yn y Semester Ymarferol. Rhoddir cyfle i fyfyrwyr fynd at gwmni proffesiynol am gyfnod o wythnos i bythefnos gan arsylwi ar eu gwaith. Bydd disgwyl iddynt gadw cofnod manwl o'u profiadau ar ffurf ysgrifenedig.