Cod y Modiwl DD33920  
Teitl y Modiwl THEATR MEWN AMGUEDDFEYDD  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Ms Lisa Lewis  
Semester Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)  
Rhagofynion DD10120 , DD10320  
Cyd-Ofynion DD21520  
Elfennau Anghymharus I fyfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig  
Manylion y cyrsiau Darlith   11 Awr 10 x 1 awr  
  Seminarau / Tiwtorialau   11 Awr 10 x 1 awr  
    Prosiect ymarferol  
Dulliau Asesu Gwaith prosiect   Prosiect ymarferol (ymchwil, dyfeisio, ymarfer a pherfformio)   50%  
  Traethawd   2,500 o eiriau   40%  
  Adroddiad gwerthuso   Cofnod ysgrifenedig o'r gwaith archwilio a pharatoi   10%  

Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, fe gyflwynir astudiaeth o Theatr mewn Amgueddfeydd yng Nghymru. Byddwch yn mynychu nifer o ddarlithoedd ac yn creu prosiect ymarferol. Er mwyn creu'r prosiect hwnnw, byddwch yn ymweld ag amgueddfeydd ac orielau cenedlaethol Cymru, yn bennaf Amgueddfa Werin Cymru, er y gallai'r prosiect ymarferol ddigwydd mewn unrhyw un o'r amgueddfeydd hyn (e.e. Amgueddfa ac Oriel GenedlaetholCaerdydd, yr Amgueddfa Werin, yr Amgueddfa Diwydiant a Mor, Amgueddfa Diwydiant Gwlan Cymru, Amgueddfa Llechi Llanberis). Edrychir yn arbennig ar waith mewn lleoliad arbennig (e.e. Llancaiach Fawr, Pentre Canoloesol Cosmeston), y deunydd a ddehonglir a pherthynas perfformwyr/dehonglwyr a'r gynulleidfa/ymwelwyr. Yn ystod cyfnod y prosiect disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio a chreu eu gwaith yn drylwyr gan gadw cofnod o'r broses. Ceir cyfnod gwaith yn ymarfer a pherfformio yn dilyn hynny.