Cod y Modiwl GW10110  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL1:REALAETH WLEDYDDOL  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Brian Schmidt  
Semester Semester 1  
Elfennau Anghymharus IP10110  
Manylion y cyrsiau Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y Seminarau 5 x 1 awr (yn Gymraeg)  
  Darlith   20 Awr Nifer y Darlithiau 20 x 1 awr (yn Saesneg)  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr Arholiad 2 awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 1,500 o eiriau.   30%  

Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar un dull o ystyried Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sef y safbwynt Realaidd. Mae yna
ddulliau eraill, a thrafodir y rhain ym modiwl yr ail semester (GW10310). Diben y modiwl hwn yw cyflwyno'r modd
traddodiadol o egluro Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Fel y cyfryw, bydd yn cynnig fframwaith trefnus er mwyn esbonio'r pwnc, gan gyflwyno hefyd brif faterion a themau cysylltiadau rhyngwladol cyfoes.

Tair rhan sydd i'r modiwl: Cyd-destun: sy'n edrych ar esblygiad y gyfundrefn ryngwladol, gan gynnig hanes cryno o'r modd yr
eglurwyd Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn yr ugeinfed ganrif; Cysyniadau: sy'n cyflwyno prif gysyniadau Gwleidyddiaeth
Ryngwladol megis grym, cydbwysedd grym, moesoldeb, cyfundrefnau rhyngwladol a'r gymdeithas ryngwladol;
Cwestiynau: sy'n gosod cyfres o gwestiynau allweddol am Wleidyddiaeth Ryngwladol gan drafod materion megis pwy sy'n
gweithredu yng ngwleidyddiaeth y byd, sut mae llunio polisi tramor, beth yw'r offer ar gyfer gweithredu ar bolisi tramor, pam
y ceir rhyfel, a beth yw'r prif gyfyngiadau ar weithredoedd arweinwyr y gwladwriaethau?

Nod y modiwl
Cynnig cyflwyniad cydlynol i ddamcaniaeth bennaf Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'ch cynorthwyo i esbonio patrymau Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Amcanion
Ar ddiwedd y modiwl dylech fedru:
- ddisgrifio esblygiad a natur y gyfundrefn ryngwladol
- amlinellu ac asesu prif gysyniadau y disgrifiad Realaidd o Wleidyddiaeth Ryngwladol
- cynnig atebion i'r pum cwestiwn a osodwyd yn y modiwl ynghylch patrymau Gwleidyddiaeth Ryngwladol
- nodi ac asesu'r dewisiadau sydd ar gael i arweinwyr gwladwriaethau, a medru egluro'r cyfyngiadau sydd ar eu gweithredoedd
- amlygu ymwybyddiaeth o gryfderau a gwendidau'r fframwaith realaidd gan nodi pa fframweithiau eraill sydd ar gael.

Elfennau anghymharus IP10110

Rhestr Ddarllen
Llyfr
J Baylis & S Smith. the Globalization of World Politics. OUP 1997
K Holsti. International Politics: A Framework for Analysis 7th ed. prentice-Hall 1995
P Viotti & M Kauppi. International Relations theory 2nd ed. Macmillan 1993
Jack Donnelly. Realism. Cambridge University Press 2000