Cod y Modiwl GW10310  
Teitl y Modiwl GWLEIDYDDIAETH RYNGWLADOL 2: YR YMRAFAEL RHWNG SAFBWYNTIAU  
Blwyddyn Academaidd 2000/2001  
Cyd-gysylltydd y Modiwl Dr Jenny Edkins  
Semester Semester 2  
Staff Eraill sy'n Cyfrannu Dr Timothy Dunne, Dr Stephen Hobden  
Elfennau Anghymharus IP10310  
Manylion y cyrsiau Darlith   18 Awr Nifer y darlithiau (yn Saesneg) - 18  
  Seminarau / Tiwtorialau   5 Awr Nifer y darlithiau (yn Gymraeg) - 5  
Dulliau Asesu Arholiad   2 Awr   70%  
  Traethawd   Traethawd 1,500 o eiriau.   30%  

Nod y modiwl
Amcan y modiwl yw cynnig cyflwyniad i esblygiad a rhychwant Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ei chrynswth, a bod
yn ddolen gyswllt rhwng modiwl y semester cyntaf a'r modiwl sydd i'w astudio yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Disgrifiad cryno
Yn y semester cyntaf, cyflwynwyd gwleidyddiaeth ar raddfa fyd-eang o safbwynt realaeth. Dyma'r safbwynt pennaf yn
nhraddodiad yr astudiaeth academaidd o Wleidyddiaeth Ryngwladol, yn ei bwyslais ar wladwriaethau fel y cyfranwyr
pennaf, uchel-wleidyddiaeth diogelwch cenedlaethol, a'r duedd tuag at drais dan amodau anarchiaeth. Bydd y modiwl hwn yn
gymorth esbonio rhai o'r prif bosibiliadau eraill wrth ateb y cwestiwn "sut ydym i feddwl am wleidyddiaeth y byd?".
Byddwn yn ystyried y posibiliadau canlynol: Ffeminyddiaeth, Rhyddfrydiaeth, Theori systemau'r byd a chyfeiriadau newydd.

Nid yn unig y bydd y modiwl yn cyflwyno'r prif ddadleuon o fewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol heddiw ac yn rhoi blas o'r prif
isfeysydd a drafodir o Flwyddyn 2 ymlaen, ond bydd hefyd yn cysylltu eich astudiaeth a rhai o'r prif gwestiynau ym mywyd
deallusol y Gorllewin ar hyn o bryd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

Amcanion
Nod y cwrs yw eich galluogi erbyn ei ddiwedd i drafod canolbwynt a rhychwant, cryfderau a gwendidau y safbwyntiau
a gyflwynwyd.

Rhestr Ddarllen
Llyfr
J Baylis & S Smith. The Globalisation of World Politics. OUP
D Held. Prospects for Democracy. Blackwell 1992
C Enloe. Bananas, Beaches and Bases. Pandora 1989
D Campbell. National Deconstruction. Minnesota 1998
I Wallerstein. The Modern World-System. Academic Press 1974-1989